Mewn ffiseg cnewyllol, mae gwrthfater yn ddefnydd wedi'i wneud o wrthgnewyllynau sydd a'r un mas â mater cyffredin, ond fod ganddynt wefr gwahanol a nodweddion gronynnau megis rhifau lepton a baryon.
Ceir gwrth-hydrogen a gwrthheliwm. Mae cymysgu mater a gwrthfater yn difa'r ddau ond yn creu ynni enfawr a photonau. Nid yw gwyddoniaeth yn deall pam fod cymaint o fater a chyn lleied o wrthfater yn y bydysawd.
Math | mater |
---|---|
Y gwrthwyneb | Q28921572 |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Yn 1995 cyhoeddodd CERN eu bod wedi creu naw atom o wrth-hydrogen o fewn arbrawf PS210. Yn 2002 cyhoeddodd yr arbrawf ATHENA, oedd wedi'i leoli o fewn CERN, eu bod wedi creu gwrth-hydrogen 'oer'. Cymerodd 8 mlynedd pellach cyn i'r arbrawf ALPHA (sydd wedi'i ffurffio gan rai o aelodau'r cyn-arbrawf ATHENA) lwyddo i ddal atomau gwrth-hydrogen mewn trap niwtral magnetig.. Yn 2012 goleuodd ALPHA atomau o gwrth-hydrogen gyda ymbelydredd microdonol gan cynhyrfu trosiad cwantwm (newidiad sbin) mewn gwrth-hydrogen am y tro cyntaf.
Yn ymarferol defyddir gwrthfater o fath positronnau (gwrth-electronnau) i greu delweddau yn y byd meddygol mewn techneg a enwir yn PET (Positron emission tomography).
Defnydd posibl arall yn y dyfodol pell yw creu tanwydd.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Gwrthfater, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.