System o gyfeirnodau grid daearyddol a ddefnyddir yng ngwledydd Prydain, sy'n wahanol i hydred a lledred, yw'r system cyfeirio Grid Cenedlaethol yr Arolwg Ordnans.
Crëwyd y system hon gan yr Arolwg Ordnans, ac fe'i defnyddir yn aml er mwyn dadansoddi'u data ymchwil, ac wrth ddiweddaru a chreu mapiau (naill ai gan yr Arolwg Ordnans neu drydydd barti) sy'n seiliedig ar yr arolygon hyn. Dyfynnir cyfeirnodau gridiau yn aml hefyd gan gyhoeddiadau a ffynonellau o ddata eraill, megis arweinlyfrau neu ddogfennau cynllunio i'r llywodraeth.
Mae llawer o systemau'n bodoli, ac maent yn gallu darparu cyfeirnodau gridiau am leoliadau yn Ynysoedd Prydain: mae'r erthygl hon yn disgrifio'r system a grëwyd i Brydain Fawr a'r ynysoedd sydd ar ei hymyl yn benodol (gan gynnwys Ynys Manaw); system debyg a ddefnyddir yn Iwerddon ydy'r system gyfeirnodau gridiau Iwerddon, a grëwyd gan Arolwg Ordnans Iwerddon ar gyfer yr ynys ei hunan. Defnyddir system gyfesur Universal Transverse Mercator (UTM) er mwyn darparu cyfeirnodau gridiau i leoliadau byd-eang, a dyma'r system a ddefnyddir ar gyfer Ynysoedd y Sianel. Mae asiantau Ewrop hefyd yn defnyddio'r system honno wrth fapio lleoliadau, ac ambell waith defnyddient systemau o gyfeirnodau grid milwrol (MGRS) amrywiol.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Grid Cenedlaethol yr Arolwg Ordnans, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.