Mae Tre-Biwt yn orsaf drên arfaethedig yng Nghaerdydd ar linell gangen Trebiwt yn ardal Bae Caerdydd, neu'r enw hanesyddol Tiger Bay.
Mae'r orsaf yn rhan o fasnachfraint Cymru a’r Gororau a bydd yn rhan o Fetro De Cymru.
Math | gorsaf reilffordd arfaethedig |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Bae Caerdydd |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 51.47°N 3.1686°W |
Yn wreiddiol, cynllinwyd y byddai'r orsaf ger Sgwâr Loudoun (un o gymunedau amlddiwylliannol hynaf y Deyrnas Unedig), gan agor erbyn Rhagfyr 2023. Ym mis Awst 2022, cyhoeddwyd y byddai’r orsaf wedi’i lleoli ymhellach i’r gogledd, y byddai’n cynnwys dau blatfform, ac y byddai nawr yn agor yng ngwanwyn 2024. Byddai'n cael ei wasanaethu gan drenau tram.
Dechreuodd y gwaith dechreuol gan gynnwys clirio llystyfiant ym mis Ionawr 2023 gyda mwyafrif y prif waith i'w ddechrau yn Haf 2023. Ar yr un pryd, mae gorsaf reilffordd Bae Caerdydd yn dechrau ailddatblygu. Mae angen clirio'r gwaith llystyfiant ar gyfer ailddyblu Llinell Bae Caerdydd a gosod offer trydanol uwchben ar gyfer cyflwyno trenau tram.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Gorsaf reilffordd Tre-biwt, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.