Gweithiwr neu grefftwr metel, yn enwedig haearn a dur, yw gof.
Rhoddir enwau manwl ar ofaint sy'n trin metelau eraill, megis gof aur, gof arian, gof gwyn (tun), a gof copr, neu sy'n gweithio gyda dyfeisiau metel megis gof cleddyfau, gof gynnau, gof cloeon, a gof angorau.
Betty Roberts, a oedd yn gweithio fel cynorthwywr gof yn Fron Hebron, Llanrug, Gwynedd | |
Enghraifft o'r canlynol | hen broffesiwn, galwedigaeth |
---|---|
Math | gof metal, gweithiwr metal |
Lleoliad | efail |
Cynnyrch | gwaith gof |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Byddai gofaint ers yr henfyd yn toddi metel o'r mwyn mewn ffwrnais, fel ei fod yn hydrin ac yn haws ei weithio. Câi'r metel ei ofannu, hynny yw ei ddal yn erbyn eingion gyda gefeiliau a'i daro a'i siapio gyda morthwyl, cŷn, ac offer eraill.
Byddai cenhedloedd gynt yn rhwystro i'r bobl a ddarostyngid ganddynt ddysgu ac arfer crefft y gof, fel na byddai ganddynt arfau i wrthryfela â hwynt. Yn ôl y Beibl, fe wnaed hyn mor fanwl â'r Israeliaid gan y Philistiaid fel "doedd dim gof i'w gael yn holl wlad Israel" (1 Samuel 10:19). Cyfrifid y gof, yn y Cyfreithiau Cymreig, yn un o dri phroffeswyr y celfyddydau breiniol. O'r Oes Haearn hyd y Chwyldro Diwydiannol, gwnaed y mwyafrif o wrthrychau haearn gyr yn y byd wrth law yng ngweithdy'r gof.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Gof, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.