Giorgio Napolitano

Gwleidydd Eidalaidd oedd Giorgio Napolitano (29 Mehefin 1925 – 22 Medi 2023) a wasanaethodd yn Arlywydd yr Eidal o 2006 i 2015.

Giorgio Napolitano
Giorgio Napolitano
Portread swyddogol yr Arlywydd Giorgio Napolitano (2006).
Ganwyd29 Mehefin 1925 Edit this on Wikidata
Napoli Edit this on Wikidata
Bu farw22 Medi 2023 Edit this on Wikidata
Rhufain Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethyr Eidal Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Prifysgol Napoli Federico II
  • L.Clas.Umberto I-Napoli- Edit this on Wikidata
Galwedigaethgwleidydd, newyddiadurwr Edit this on Wikidata
SwyddArlywydd yr Eidal, President of the Chamber of Deputies of Italy, Gweinidog Mewnol yr Eidal, Aelod Senedd Ewrop, Aelod o Siambr Dirprwyon Gweriniaeth yr Eidal, Aelod o'r Senedd Eidalaidd, Aelod Senedd Ewrop, Aelod Senedd Ewrop, Aelod o Siambr Dirprwyon Gweriniaeth yr Eidal, Aelod o Siambr Dirprwyon Gweriniaeth yr Eidal, Aelod o Siambr Dirprwyon Gweriniaeth yr Eidal, Aelod o Siambr Dirprwyon Gweriniaeth yr Eidal, Aelod o Siambr Dirprwyon Gweriniaeth yr Eidal, Aelod o Siambr Dirprwyon Gweriniaeth yr Eidal, Aelod o Siambr Dirprwyon Gweriniaeth yr Eidal, Aelod o Siambr Dirprwyon Gweriniaeth yr Eidal, Aelod o Siambr Dirprwyon Gweriniaeth yr Eidal Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolDemocrats of the Left, Plaid Gomiwnyddol yr Eidal, Democratic Party of the Left Edit this on Wikidata
Gwobr/auMarchog Uwch-Groes Urdd Teilyngdod Gweriniaeth yr Eidal, Uwch Groes y Lleng Anrhydedd, Uwch-Groes Urdd Isabel la Católica, Urdd yr Eryr Gwyn, Grand Cross of the Order of the White Double Cross‎, Order of State of Republic of Turkey, Urdd Brenhinol y Seraffim, Urdd Umayyad, Doethor Anrhydeddus Prifysgol Paris-Sorbonne, Doethor Anrhydeddus Prifysgol Madrid, Prix de la laïcité, Uwch-seren Datganiad o Wasanaeth i Weriniaeth Awstria, Uwch Groes Rhosyn Gwyn y Ffindir gyda Choler, Commander of the Order for Merits to Lithuania, National Maltese Order of Merit, Urdd cenedlaethol Coler Uwch Cruz del Sur, "Gjergj Kastrioti Skënderbeu" Decoration, honorary doctor of the University of Pavia Edit this on Wikidata
llofnod
Giorgio Napolitano

Ganed ef yn Napoli, Teyrnas yr Eidal, yn fab i'r cyfreithiwr a bardd Giovanni Napolitano a'i wraig Carolina (Bobbio gynt). Astudiodd Giorgio y gyfraith ym Mhrifysgol Federico II, yn Napoli. Yn y brifysgol cyfarfu â Clio Bittoni; priodasant ym 1959. Ym 1945, ymaelododd Napolitano â Phlaid Gomiwnyddol yr Eidal (PCI). Fe'i etholwyd i Siambr y Dirprwyon ym 1953, a chynrychiolai Napoli yn y ddeddfwrfa hyd at 1996, ac eithrio'r cyfnod 1963–68. Fel aelod o Blaid Ddemocrataidd y Chwith (PDS), a ddilynodd y PCI ym 1991, gwasanaethodd Napolitano yn Llywydd Siambr y Dirprwyon o 1992 i 1994, ac yn Weinidog Cartref o 1996 i 1998 yn llywodraeth gyntaf y Prif Weinidog Romano Prodi. Gwasanaethodd hefyd yn Aelod Senedd Ewrop dros Dde'r Eidal o 1989 i 1992 ac o 1999 i 2004.

Penodwyd Napolitano yn seneddwr am oes gan yr Arlywydd Carlo Azeglio Ciampi yn 2005. Ym Mai 2006, ac yntau'n cynrychioli Democratiaid y Chwith (DS, a ddilynodd y PDS ym 1998) ac yn ymgeisydd dros gynghrair etholiadol L'Unione, fe'i etholwyd yn Arlywydd yr Eidal gan y senedd. Efe oedd yr 11eg dyn i'w ethol yn arlywydd, y cyntaf i'w ail-ethol (yn 2013), a'r cyn-gomiwnydd cyntaf i ddal y swydd. Ymddiswyddodd o'r arlywyddiaeth yn Ionawr 2015, a fe'i olynwyd gan Sergio Mattarella. Dychwelodd Napolitano i'w sedd yn y senedd am weddill ei oes. Bu farw yn Rhufain yn 2023, yn 98 oed.

Cyfeiriadau

Rhagflaenydd:
Carlo Azeglio Ciampi
Arlywydd yr Eidal
15 Mai 200614 Ionawr 2015
Olynydd:
Sergio Mattarella

Tags:

192520062015202322 Medi29 MehefinArlywydd yr EidalEidalwyrGwleidydd

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

CourseraWordPressAbacwsPen-y-bont ar OgwrFfloridaPêl-droed AmericanaiddIau (planed)Gwledydd y bydThe Mask of ZorroTriesteHentai KamenGruffudd ab yr Ynad CochCwpan y Byd Pêl-droed 2018NanotechnolegOwain Glyn DŵrGorsaf reilffordd LeucharsEnterprise, Alabama80 CC720au1576Sefydliad WicifryngauNews From The Good LordCaerdyddArwel GruffyddConnecticutGorsaf reilffordd ArisaigIdi AminStockholmHypnerotomachia PoliphiliKate RobertsHunan leddfuJonathan Edwards (gwleidydd)Modrwy (mathemateg)Sex TapeBeverly, MassachusettsMorwynY Ddraig GochTŵr LlundainY rhyngrwydLori dduIbn Saud, brenin Sawdi ArabiaCytundeb Saint-GermainIaith arwyddionDelweddMoanaIndiaD. Densil MorganRhanbarthau FfraincRwsiaBuddug (Boudica)Valentine PenroseRowan AtkinsonGliniadurMaria Anna o SbaenAnna VlasovaTwo For The MoneyMoralLloegrThe JamIndonesiaBe.AngeledVercelliMelatoninWinslow Township, New JerseyCaliffornia🡆 More