Llyn bychan yn Y Carneddau, Eryri, yw Ffynnon Llyffant (weithiau Llyn Llyffant).
Fe'i lleolir mewn cwm creigiog uchel yng nghymuned Caerhun yn Sir Conwy.
Math | llyn |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Caerhun |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 53.1619°N 3.9636°W |
Ffynnon Llyffant yw llyn uchaf Cymru. Mae'n sefyll 2800 troedfedd (tua 815 meter) i fyny ar lethrau dwyreiniol Carnedd Llywelyn.
Dyma brif darddle Afon Eigiau, sy'n llifo i lawr Cwm Eigiau ac i mewn i Lyn Eigiau. Ar ei ffordd mae'n cael ei bwydo gan ffrydiau llai sy'n llifo i lawr o lethrau Foel Grach, Carnedd Llywelyn a Phen yr Helgi Du. Ceir olion nifer o hen chwareli llechi yn is i lawr y cwm.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Ffynnon Llyffant, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.