Hunangofiant ar ffurf nofel gan y bardd Gwenallt yw Ffwrneisiau: Cronicl Blynyddoedd Mebyd.
Fe'i cyhoeddwyd gan Gwasg Gomer ym 1982 rhyw 14 blynedd wedi marwolaeth yr awdur.
Enghraifft o'r canlynol | gwaith ysgrifenedig |
---|---|
Awdur | Gwenallt |
Cyhoeddwr | Gwasg Gomer |
Gwlad | Cymru |
Iaith | Cymraeg |
Genre | nofel |
Hon oedd nofel olaf Gwenallt. Seilwyd hi ar hanes ei fagwraeth mewn ardal ddiwydiannol ac mae'r hanes yn cynnwys pennod am farwolaeth tad y prif gymeriad (fel ei dad ei hun) a laddwyd gan fetel tawdd yn y gwaith alcam. I bob pwrpas mae hi'n hunangofiant a hanes Cwm Tawe. Roedd y rhan fwyaf o'r llyfr yn barod i'w olygu ond roedd rhaid i'r Athro J. E. Caerwyn Williams gwblhau gweddill y nodiadau, gyda help gweddw Gwenallt, Nel Gwenallt. Ceir rhagair helaeth gan J. E. Caerwyn Williams sy'n olrhain sut y daeth y llawysgrif i olwg y byd.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Ffwrneisiau, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.