Ucheldir o fryniau moel a rhosdir eang yn ne-ddwyrain Cymru yw'r Fforest Fawr.
Gorwedd y rhan fwyaf o'r ucheldir ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog rhwng y Mynydd Du i'r gorllewin a Bannau Brycheiniog i'r dwyrain.
Math | cadwyn o fynyddoedd |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Powys |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 51.85°N 3.58°W |
Er ei bod yn ardal o rosdir agored heddiw, bu'n llawer mwy coediog yn y gorffennol, ond nid dyna ystyr 'fforest' yn yr enw. Tir wedi'i ddynodi ar gyfer hela oedd 'fforest' yn yr Oesoedd Canol, gyda'r hawl i hela anifeiliaid yno wedi'i chyfyngu i'r arglwydd lleol (gweler hefyd Fforest Maesyfed). Bernard de Neufmarche, arglwydd Normanaidd Brycheiniog, a sefydlodd y Fforest ddechrau'r 12g. Yn y 13g ychwanegwyd darn arall o ucheldir, i'r de-orllewin o Bontsenni, a galwyd hwnnw y Fforest Fach a'r llall y Fforest Fawr i wahaniaethu rhyngddynt.
Gorwedd y Fforest Fawr yn ne-orllewin Powys rhwng Bannau Brycheiniog a'r Mynydd Du, gyda rhan uchaf dyffryn Wysg i'r gogledd yn gorwedd rhyngddi â Mynydd Epynt. I'r de ceir cymoedd hir a ffurfiwyd gan afonydd fel Nedd a Mellte sy'n arwain i lawr i gymoedd a dyffrynoedd Morgannwg. Ceir rhai o'r rhaeadrau gorau yn Ne Cymru yn y cymoedd hyn, er enghraifft rhae27 metr Sgwd yr Eira ar afon Hepste, ger Ystradfellte.
Lleolir ogofâu byd-enwog Dan yr Ogof yng nghongl de-orllewinol y Fforest Fawr, ger pentref Craig-y-nos. I'r gorllewin o'r pentref hwnnw Ogof Ffynnon Ddu: gyda dyfnder o 308m a thua 50 km o led mae hi'n un o'r ogofâu dyfnaf a hwyaf ym Mhrydain.
Croesir y Fforest Fawr gan ddwy ffordd fawr, sef yr A4067 rhwng Ystradgynlais a Pontsenni, a'r draffordd A470 rhwng Merthyr Tudful ac Aberhonddu.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Fforest Fawr, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.