Cynhaliwyd etholiad arlywyddol yn yr Unol Daleithiau ar Ddydd Mawrth, 6 Tachwedd 2012.
Hon oedd y 57fed etholiad arlywyddol a gynhelir bob pedair blynedd i'r Coleg Etholiadol ethol arlywydd ac is-arlywydd, a bydd y Coleg yn gwneud hynny'n swyddogol ar 17 Rhagfyr 2012. Ymgyrchodd deiliad yr arlywyddiaeth, y Democratwr Barack Obama, am ail dymor. Ei brif wrthwynebydd oedd cyn-Lywodraethwr Massachusetts, y Gweriniaethwr Mitt Romney. Dim ond pedwar ymgeisydd arall oedd ag unrhyw siawns o ennill mwyafrif o'r coleg etholiadol (270 o bleidleisiau): cyn-Lywodraethwr New Mexico, y Rhyddewyllysiwr Gary Johnson; Jill Stein, enwebiad y Blaid Werdd, Virgil Goode, ymgeisydd y Blaid Gyfansoddiadol, a Rocky Anderson, ymgeisydd y Blaid Gyfiawnder. Er ei bod yn annhebygol iawn y byddai un o'r pedwar yma'n ennill yr etholiad, roedd yn bosib iddynt effeithio ar bleidleisiau Romney ac Obama.
| |||||||||||||||||||||||||||||
538 aelod o'r Coleg Etholiadol 270 pleidlais i ennill | |||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
| |||||||||||||||||||||||||||||
Map o ganlyniadau'r etholiad. Coch: Romney a Ryan. Glas: Obama a Biden. Nifer canlyniadau'r cynrychiolwyr yw'r rhifau; po fwyaf y boblogaeth, mwyaf yw'r nifer o gynrychiolwyr sydd gan y Dalaith. | |||||||||||||||||||||||||||||
|
Cafwyd tair dadl arlywyddol rhwng Obama a Romney, ac un ddadl is-arlywyddol rhwng Joe Biden, cydymgeisydd Obama, a Paul Ryan, cydymgeisydd Romney. Yn yr wythnos cyn yr etholiad, ymyrrodd Corwynt Sandy ar yr ymgyrch a gohiriodd Obama a Romney rhai digwyddiadau. Wrth nesáu at ddiwrnod yr etholiad roedd y canlyniad yn rhy agos i ragfynegi ac yn ddibynnol ar naw talaith allweddol, ond yn ôl nifer o bolau piniwn roedd Obama ar y blaen o drwch blewyn.
Cafodd Obama ei ail-ethol wedi iddo sicrhau 270 o bleidleisiau'r Coleg Etholiadol. Fflorida, un o'r taleithiau allweddol, oedd yr olaf i ddatgan canlyniadau ei phleidleisiau i'r Coleg Etholiadol ar 10 Tachwedd, a hynny o blaid Obama gan roi iddo gyfanswm o 332 o bleidleisiau'r Coleg o gymharu â 206 gan Romney. O ran y bleidlais boblogaidd, enillodd Obama 50% o'r bleidlais o gymharu â 49.1% gan Romney, mwyafrif o 74,000 o bleidleisiau.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Etholiad arlywyddol yr Unol Daleithiau, 2012, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.