Eglwys Gatholig Roegaidd Wcráin

Mae'r Eglwys Gatholig Roegaidd Wcráin yn sefydliad Gristnogol sydd mewn cymundeb llawn â'r Eglwys Uniongred ond sydd hefyd yn rhan o'r Eglwys Gatholig Rufeinig.

Gelwir hi hefyn yn Eglwys Gatholig Roeg Wcráin (Wcreineg: Українська греко-католицька церква, talfyriad УГКЦ; Lladin: Ecclesia Graeco-Catholica Ucrainae). Caiff yr Eglwys hefyd ei hadnabod fel Eglwys Uniadol Wcráin ("Uniate Church").

Eglwys Gatholig Roegaidd Wcráin
Eglwys Gatholig Roegaidd Wcráin
Eglwys Gatholig Roegaidd Wcráin
Enghraifft o'r canlynolCatholic particular church sui iuris, Byzantine Catholic Churches, Major archiepiscopal church Edit this on Wikidata
Label brodorolУкраїнська греко-католицька церква Edit this on Wikidata
CrefyddCatholigiaeth edit this on wikidata
Rhan oyr Eglwys Gatholig Rufeinig, Cristnogaeth Ddwyreiniol Edit this on Wikidata
Pennaeth y sefydliadMajor Archbishop of Kyiv–Galicia Edit this on Wikidata
PencadlysKyiv Edit this on Wikidata
Enw brodorolУкраїнська греко-католицька церква Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://ugcc.ua Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Eglwys Gatholig Roegaidd Wcráin
Cadeirlan Sant Sior yn ninas Lviv, mam eglwys yr Eglwys
Eglwys Gatholig Roegaidd Wcráin
Rhaniadau gweinyddol o'r Eglwys Gatholig Groegaidd yn y Gymanwlad Pwylaidd-Lithwania ym 1772

Eglwys Gatholig Roegaidd Wcráin yw'r eglwys Gatholig Dwyreiniol fwyaf yn y byd gyda dros 5 miliwn o aelodau ac mae'n cael ei harwain gan yr Archesgob Svyatoslav Shevchuk.

Hanes

Yn ystod teyrnasiad y Brenin Zygmunt III Waza o Wlad Pwyl yn 1596 yng Nghyngor Metropolitan Kiyv yn Brest-Litovsk, cytunwyd ar 33 amod ar y sail y byddai'r cynulleidfaoedd yn cydnabod goruchafiaeth y Pâb yn Rhufain sef: egwyddorion diwinyddol, defnydd o iaith litwrgaidd Slafoneg yr Eglwys, cadw calendr Iŵl i ddathlu gwyliau'r Eglwys, hawl clerigwyr i briodas, a mwy.

Gydag ymlyniad olaf tiriogaethau Wcráin a Belarws i'r Ymerodraeth Rwsia yn 1793. Ym 1745, datganodd Catrin Fawr Ymerawdwres Rwsia, oddefgarwch crefyddol, ond yn ystod teyrnasiad ei holynydd, Paul I, dechreuodd erledigaeth yr Eglwys Undebol (Lladin: Ecclesia unita).

Yn ystod teyrnasiad Alecsander I ailadeiladwyd holl Metropolis Unaite Rwsieg yn 1806 (Униатское Митрополитство Всея Руси), ond yn ystod teyrnasiad Nicholas I, tsar Rwsia fe'i dileuwyd eto yn 1827. Rhwng 1827 a 1839, "cynigiwyd" i 1,898 glerigwr yr Eglwys Uniadol ddychwelyd i'r Eglwys Uniongred, ac anfonwyd 593 o glerigwyr a wrthododd i Siberia. Dim ond esgobaeth Chełm, eglwys Uniatic yn nhiriogaeth Gwlad Pwyl y Gyngres, a barhaodd i weithredu, ond fe'i caewyd hefyd yn Nhalaith Gyffredinol Warsaw (oedd bellach yn ran gyflawn o Ymerodraeth Rwsia) yn 1875.

Yr oedd yr Eglwys Undebol yn rhydd i weithredu yn y rhan o Galicia, (gorllewin Wcráin), a oedd yn perthyn i Gymanwlad Bwylaidd-Lithwanaidd (y Rzeczpospolita) ar ôl yr ymraniad y Gymanwlad yn 1772 i Awstria-Hwngari.

Yr Ugenfed Ganrif

Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, meddiannodd yr Undeb Sofietaidd orllewin Wcráin a diddymodd yr awdurdodau Sofietaidd yr Eglwys Gatholig Roegaidd yng Ngorllewin Wcráin a Dwyrain Ewrop. Yn Galicia, arestiwyd y Metropolitan Jossõf Slipõi a chafodd holl esgobion yr eglwys eu gormesu. Yn y ffug-synod yn 1946, dan arweiniad y clerigwr Gavriil Kostelnik, ymwadwyd Undeb Brest 1596 a datganwyd yr eglwys yn eilradd i Eglwys Uniongred Rwsia. Gostyngwyd clerigwyr na chydnabu benderfyniad y ffug-synod. Fodd bynnag, ar ôl llofruddiaeth yr Esgob Theodor Romža yn 1947, unwyd yr Eglwys Undodaidd yn Transcarpathia ag Eglwys Uniongred Rwseg. Rhwng 1946 a 1989 gorfodwyd yr eglwys i weithredu fel eglwys danddaearol.

O 1989, cafwyd cyfnod newydd yn hanes yr Eglwys Gatholig Groeg yn dechrau ar ôl ei gydnabod swyddogol (cyfreithloni) yn yr Undeb Sofietaidd.

Heddiw, mae yna gynulleidfaoedd o'r eglwys hon ledled yr Wcrain ac mewn llawer o wledydd ledled y byd.

Heddiw

Yr Eglwys Gatholig Groegaidd Wcreineg yw'r Eglwys Gatholig Dwyreiniol fwyaf yn y byd. Ar hyn o bryd mae ganddi tua 4.1 miliwn o aelodau.

O ran nifer yr aelodau, mae Eglwys Gatholig Roegaidd yn y trydydd safle o ran teyrngarwch ymhlith poblogaeth yr Wcráin ar ôl y ddau brif Eglwys Uniongred (sy'n adlewyrchu'r rhwyg o fewn cymdeithas Wcráin a grym crefyddol a gwleidyddol Rwsia): Eglwys Uniongred Wcrain (Patriarchiaeth Moscow) ac Eglwys Uniongred yr Wcráin (sydd ar wahân i Fosgo). Ar hyn o bryd, mae Eglwys Gatholig Roegaidd Wcrain yn dominyddu mewn tair oblast orllewinol yr Wcrain, gan gynnwys mwyafrif poblogaeth Lviv, ond mae'n cynnwys lleiafrif bach mewn mannau eraill yn y wlad.

Dolenni

Cyfeiriadau

Eglwys Gatholig Roegaidd Wcráin  Eginyn erthygl sydd uchod am Gristnogaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
Eglwys Gatholig Roegaidd Wcráin  Eginyn erthygl sydd uchod am Wcráin. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.

Tags:

Eglwys Gatholig Roegaidd Wcráin HanesEglwys Gatholig Roegaidd Wcráin Yr Ugenfed GanrifEglwys Gatholig Roegaidd Wcráin HeddiwEglwys Gatholig Roegaidd Wcráin DolenniEglwys Gatholig Roegaidd Wcráin CyfeiriadauEglwys Gatholig Roegaidd WcráinCristnogaethEglwys GatholigEglwys UniongredLladinWcreineg

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

Le Porte Del SilenzioGareth BaleRhyfel Annibyniaeth AmericaVita and VirginiaCymylau nosloywHuang HeCarles PuigdemontAlldafliadSgitsoffreniaBataliwn Amddiffynwyr yr IaithPhilippe, brenin Gwlad BelgMegan Lloyd GeorgeSaesnegMallwydTwrciCorsen (offeryn)Abdullah II, brenin IorddonenHamletJapanFfloridaIndiaFaith RinggoldBad Man of DeadwoodCiChwyddiantLleuwen SteffanIwgoslafiaFfuglen llawn cyffroZia MohyeddinY Brenin ArthurMinnesotaTamannaAssociated PressWicidataGwybodaethEmmanuel MacronSiambr Gladdu TrellyffaintAmerican Dad XxxThe Principles of LustSystem weithreduY RhegiadurJava (iaith rhaglennu)Sex and The Single GirlTrydanYr Ail Ryfel BydRyan DaviesPeter HainEconomi CymruGwleidyddiaeth y Deyrnas UnedigAlbert Evans-JonesArfon WynMark Taubert2012Ffilm bornograffigVin DieselElectronegIn My Skin (cyfres deledu)GundermannUtahWikipediaAlldafliad benywY TribanGwyneddO. J. SimpsonVladimir Putin🡆 More