Swffragét o Loegr oedd Edith How-Martyn (17 Mehefin 1875 - 2 Chwefror 1954) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am gael ei harestio yn 1906 am geisio areithio yn Nhŷ'r Cyffredin.
Roedd yn aelod o Undeb Cymdeithasol a Gwleidyddol y Menywod (WSPU).
Edith How-Martyn | |
---|---|
Ganwyd | 17 Mehefin 1875 Llundain |
Bu farw | 2 Chwefror 1954 Sydney |
Dinasyddiaeth | Lloegr |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gwleidydd, swffragét |
Roedd ei harestio hi am geisio areithio yn Nhŷ'r Cyffredin ymhlith protestiadau ac ymgyrchoedd milwriaethus cyntaf, yng ngwledydd Prydain dros hawliau merched.
Cyfarfu â Margaret Sanger yn 1915 ac aeth y ddwy ati i drefnu cynhadledd yn Genefa. Aeth How-Martyn ar daith o amgylch India yn siarad am reoli beichiogrwydd. Nid oedd ganddi unrhyw blant a bu farw yn Awstralia.
Fe'i ganed yn Llundain ar 17 Mehefin 1875; bu farw yn Sydney, Awstralia. Groseriaid, Edwin ac Ann How oedd ei rhieni, a daeth ei chwaer Florence Earengey yn gyfreithwraig. Derbyniodd Edith ei haddysg yn y North London Collegiate School ble gwrthryfelodd yn erbyn yr annhegwch fod y bechgyn yn derbyn hawliau nad oedd yn cael eu rhoi i ferched. Oddi yno aeth i Prifysgol Aberystwyth lle astudiodd ffiseg a cherddoriaeth, gan dderbyn ail radd, allanol wedyn o Brifysgol Llundain yn 1903.
Priododd George Herbert Martyn yn 1899. Roedd ganddi ei barn ei hun, barn radical o flaen ei hoes. Roedd yn aelod o'r Blaid Lafur Annibynnol ac yna'n aelod o'r WSPU yn 1905. Y flwyddyn ganlynol fe'i penodwyd yn gyd-ysgrifennydd y WSPU gyda Charlotte Despard ac ym mis Hydref 1906 cafodd ei harestio yng nghyntedd Tŷ'r Cyffredin yn ceisio rhoi araith. Hi oedd un o'r aelodau WSPU cyntaf i fynd i'r carchar pan gafodd ddedfryd o ddau fis.
Fodd bynnag, roedd cyfeiriad WSPU o dan arweiniad y Pankhursts yn fater o bryder mawr iddi, fel yr oedd i aelodau eraill ar yr adeg hon. Yn 1907, ynghyd â Charlotte Despard ac eraill, gadawodd y grŵp i ffurfio Cynghrair Rhyddid y Menywod (Women's Freedom League; WFL). Gwrthododd y grŵp newydd hwn dactegau treisgar y grŵp hŷn; roeddent o blaid gweithredoedd anghyfreithlon, di-drais i gyfleu eu neges. Bu'n ysgrifennydd anrhydeddus y grŵp newydd o 1907 i 1911, pan ddaeth yn bennaeth yr adran Wleidyddol a Milwriaethus. Fodd bynnag, ymddiswyddodd ym mis Ebrill 1912, yn siomedig â diffyg cynnydd y WFL, wedi i'r Bil Cymodi gael ei drechu.
Gweithred wleidyddol nesaf How-Martyn oedd sefyll fel ymgeisydd annibynnol yn Hendon yn etholiad cyffredinol 1918, ond bu'n aflwyddiannus. Cynhaliodd swydd gyhoeddus am y tro cyntaf Yn 1919, pan ddaeth yn aelod o Gyngor Sir Middlesex, swydd a ddaliodd hyd at 1922.
O hynny ymlaen, cyfeiriwyd ei diddordebau yn bennaf at atal cenhedlu. Cyfarfu â Margaret Sanger, arweinydd ymgyrch "cynllunio teulu" America yn 1915 ac roedd ei syniadau wedi creu argraff arni, ac aeth ati i drefnu Cynhadledd Poblogaeth y Byd 1927 yn Genefa gyda Sanger a dod yn gyfarwyddwr anrhydeddus yCanolfan Wybodaeth Rhyngwladol Atal cenhedlu yn Llundain yn 1930.
Wedi taith hir o amgylch India symudodd hi a'i gŵr i Awstralia lle cychwynodd sgwennu am y mudiad hawliau merched, yn bennaf yn y Suffragette Fellowship. Bu farw yn dilyn stroc, mewn cartref hen bobl yn Awstralia.
Bu'n aelod o Undeb Cymdeithasol a Gwleidyddol y Merched am rai blynyddoedd.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Edith How-Martyn, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.