Y wyddoniaeth a'r astudiaeth o sut i wella'r berthynas rhwng y prosesau ecolegol yn yr amgylchedd ac ecosystem arbennig yw Ecoleg tirffurfiau.
Gwneir hyn o fewn gwahanol fathau o dirffurfiau, datblygiadau, patrymau gofodol, ymchwil a pholisi.
Mae'n faes hynod o ryngddisgyblaethol o fewn gwyddoniaeth systemau ac yn cyfanu'r bioffisegol a'r gwyddorau cymdeithasol. Mae tirffurfiau, o ran gofod, yn ardaloedd daearyddol hynod o anghydryw (heterogeneous) a'r hyn sy'n nodweddiadol ohonynt yw'r amrywiaeth eang o ecosystemau, fel clytwaith, yn amrywio o systemau gymharol naturiol megis coedwigoedd a llynnoedd i amgylcheddau annaturiol a grewyd gan ddyn, gan gynnwys caeau enfawr o weiriau a threfi. Pwysleisia ecoleg tirffurfiol ar ei waethaf (a mwyaf amlwg) y berthynas rhwng patrymau, prosesau a graddfa, a'r ffocws mae'n ei roi ar bynciau llosg ecoleg a'r amgylchedd. Drwy hyn, priodir dau fath o wyddoniaeth: y bioffisegol a'r cymdeithaol-economaidd. Ymhlith y pynciau ymchwil mwyaf poblogaidd y mae llif ecoleg drwy glytwaith tirffurfiau, y defnydd o dir, graddfeydd, analeiddio gwahanol batrymau o fewn y tirffurfiau a chadwraeth tirffurfiau a chynaliadwyedd.
Bathwyd y term Almaeneg Landschaftsökologie sef tirffurfiau ecolegol –gan y daearyddwr Carl Troll yn 1939. Datblygodd dermau addas ar gyfer y maes, ynghyd â sawl cysyniad cynnar am y maes, fel rhan o'i waith gyda ffotograffau o awyrennau er mwyn iddo weld y berthynas rhwng natur a thirffurfiau dinesig.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Ecoleg tirffurfiau, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.