Dysgu peirianyddol yw'r astudiaeth wyddonol o algorithmau a modelau ystadegol sy'n cael eu defnyddio gan systemau cyfrifiadurol i gyflawni tasg benodol, gan ddibynnu ar batrymau a chasgliadau yn lle cyfarwyddiadau penodol.
Mae'n cael ei weld fel is-set o ddeallusrwydd artiffisial.
Mae algorithmau dysgu peirianyddol yn adeiladu model mathemategol o ddata sampl a elwir yn " ddata hyfforddi " er mwyn gwneud rhagfynegiadau neu benderfyniadau heb fod wedi'u rhaglennu'n benodol i gyflawni'r dasg. Defnyddir yr algorithmau hyn mewn amrywiaeth eang o gymwysiadau, fel hidlo e-bost a golwg gyfrifiadurol, lle nad yw'n ddichonol i ddatblygu algorithm o gyfarwyddiadau penodol ar gyfer cyflawni'r dasg.
Ceir cysylltiad agos rhwng dysgu peirianyddol ac ystadegaeth gyfrifiadol, sy'n canolbwyntio ar wneud rhagfynegiadau gan ddefnyddio cyfrifiaduron.
Mae'r astudiaeth o optimeiddio mathemategol yn cyflwyno dulliau, theori a meysydd cymhwyso i faes dysgu peirianyddol.
Mae cloddio data yn faes astudiaeth o fewn i ddysgu peirianyddol, ac mae'n canolbwyntio ar ddadansoddi data archwiliadol trwy ddysgu heb oruchwyliaeth.
Yn ei gymhwysiad ar draws problemau busnes, cyfeirir at ddysgu peirianyddol hefyd fel 'dadansoddi rhagfynegol'.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Dysgu peirianyddol, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.