Gwahaniad cymysgedd mewn i'w cydrannau gwreiddiol yw Distyllu ffracsiynol.
Mae hyn yn cael ei gyflawni wrth gynhesu cyfansoddion cemegol gan ei berwbwyntiau ac yna ei gwahanu i mewn i ffracsiynau gwahanol i anweddu. Mae hyn yn fath arbennig o ddistyllu. Yn syml mae'r cydrannau gwreiddiol yn berwi yn llai na 25 °C o'i gilydd ac o dan gwasgedd o 1 atmosffer (atm). Os mae'r gwahaniaeth yn y berwbwyntiau yn fwy na 25 °C yna mae yna fath syml o distyllu yn cael ei defnyddio.
Offer distyllu ffracsiynol mewn labordy | |
Enghraifft o'r canlynol | separation process |
---|---|
Math | Distyllu |
Mae olew crai yn gymysgedd cymhleth o foleciwlau hydrocarbonau a ffurfiwyd dros filiynau o flynyddoedd. Does dim ffosiliau o fewn olew crai ond mae tystiolaeth yn dangos taw gweddillion creaduriaid a planhigion a ffurfiwyd y hydrocarbonau yma. Ffurfiwyd rhain o'r weddillion yn y môr mewn ardaloedd a oedd yn rhydd o ocsigen, roedd bacteria yn bwydo ar y gweddillion hyn ac yn tynnu unrhyw ocsigen a oedd o fewn y weddillion. Erbyn hyn mae olew yn cael eu buro yn eang ac mae'n brif ffynhonnell ar gyfer tanwyddau. Bydd cyfansoddion olew crai yn amrywio o un maes olew i'r llall, gydag ambell olew crai yn cynnwys meintiau sylweddol o gyfansoddion sylffwr a nitrogen yn ogystal ag olion amryw o fetelau. Distyllu ffracsiynol yw'r cam cyntaf wrth buro i gynhyrchu tanwyddau ac ireidiau ynghyd â defnyddiau crai ar gyfer y diwydiant petrogemegol.
Proses ddi-dor ar raddfa eang yw distyllu ffracsiynol olew. Mae'n rhannu olew crai yn ffracsiynau. Bydd ffwrnais yn gwresogi'r olew a hwnnw'n llifo wedyn i golofn ffracsiynu. Yn y golofn hon mae tua 40 'hambwrdd' gyda thyllau bychain drostynt i gyd. Bydd anwedd cyddwysedig yn llifo dros pob hambwrdd ac yna i'r hambwrdd islaw. Mae'r golofn boethach ar y gwaelod ac yna oerach ar y top ac felly mae'r cadwynau mawr megis octan a decan yn ffracsiynu ar waelod y golofn a'r cadwynau llai megis methan ac ethan yn ffracsiynu ar dop y golofn.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Distyllu ffracsiynol, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.