Demograffiaeth yr Iseldiroedd yw'r astudiaeth o niferoedd a nodweddion poblogaeth yr Iseldiroedd.
Gyda poblogaeth o 16,491,461 ac arwynebedd y wlad yn 41,526 km², mae dwysedd poblogaeth yr Iseldiroedd yn uchel. Saif yn 23ain ymysg gwledydd y byd o ran dwysedd poblogaeth, a dim ond Bangladesh a De Corea sy'n wledydd mwy ac a dwysder poblogaeth uwch.
Un o nodweddion poblogaeth yr Iseldiroedd yw mai hwy, ar gyfartaledd, yw'r bobl dalaf yn y byd, gyda chyfartaledd uchder o 1.83 m (6 troedfedd) i ddynion a 1.70 m (5 troedfedd 7 modfedd) i ferched.
Mae'r gyfradd genedigaethau yn 1.75 plentyn i bob merch. Cymharol araf yw tŵf y boblogaeth, gyda 10.9 genedigaeth y fil o boblogaeth a 8.68 marwolaeth y fil o boblogaeth. Fel yn y rhan fwyaf o wledydd Ewrop, mae'r boblogaeth yn heneiddio; ond i raddau llai na'r rhan fwyaf o wledydd eraill Ewrop.
Ceir cryn dipyn o fewnfudo i'r Iseldiroedd, a hefyd gryn dipyn o allfudo. O'r trigolion heb fod yn Iseldirwyr ethnig, y grwpiau mwyaf yw Indonesiaid (2.4%), Almaenwyr (2.4%), Twrciaid (2.2%) a Swrinamiaid (2.0%).
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Demograffeg yr Iseldiroedd, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.