Cenhadwr a fforiwr Albanaidd oedd David Livingstone (19 Mawrth 1813 – 1 Mai 1873).
David Livingstone | |
---|---|
Ganwyd | 19 Mawrth 1813 Blantyre, De Swydd Lanark |
Bu farw | 1 Mai 1873 o malaria Ilala Hill |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon, y Deyrnas Unedig, Yr Alban |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | fforiwr, meddyg ac awdur, daearyddwr, ysgrifennwr, cenhadwr |
Priod | Mary Livingstone |
Plant | Agnes Livingstone Bruce |
Perthnasau | Robert Moffat (explorateur) |
Gwobr/au | Cymrawd y Gymdeithas Frenhinol, Medal y Noddwr, Grande Médaille d'Or des Explorations, Cymrodoriaeth y Gymdeithas Ddaearyddol Frenhinol |
llofnod | |
Ganed ef yn Blantyre, Swydd Lanark, yn fab i Neil Livingstone (1788-1856) a'i wraig Agnes (1782-1865). Dechreuodd David weithio yn y felin gotwm leol. Yn 1836 aeth i Brifysgol Anderson, Glasgow, i astudio, ac yn fuan wedyn, derbyniwyd ei gais i ymuno â Chymdeithas Genhadol Llundain. Aeth i Lundain i astudio i fod yn feddyg. Yno cyfarfu a Robert Moffat, cenhadwr ar wyliao o Kuruman, De Affrica. Yn 1841, aeth Livingstone i Kuriman, yna yn 1844 symudodd i'r gogledd i ddechrau cenhadaeth yn Mabotswa. Yma, bu bron iddo gael ei ladd gan lew, a'i anafodd yn ddifrifol.
Yn 1845, priododd Mary, merch Robert Moffat. Ganed eu merch, Agmes, yn 1847. Rhwng 1852 a 1856, bu'n fforio tua'r gogledd, ac ef oedd yr Ewropead cyntaf i weld rhaeMosi-oa-Tunya, a enwyd yn RhaeVictoria ganddo. Roedd yn un o'r Ewropeaid cyntaf i deithio ar draws Affrica, o Luanda i Quelimane.
O 1858 hyd 1864 bu'n arwain ymgyrch i fforio afon Zambezi. Dychwelodd i Affrica yn 1866, i Sansibar, i ddechrau ymgyrch i chwilio am darddle afon Nîl. Ef oedd yr Ewropead cyntaf, mae'n debyg, i weld Llyn Malawi. Gwnaeth lawer i geisio dileu y fasnach mewn caethweision yn nwyrain Affrica. Gan nad oedd newyddion amdano wedi cyrraedd Sansibar, yn 1869 gyrrwyd Henry Morton Stanley gan y New York Herald i chwilio amdano. Cafodd Stanley hyd iddo ar lan Llyn Tanganyika ar 10 Tachwedd 1871. Roedd Livingstone eisoes yn wael, a bu farw yn Ilala, yn awr yn Sambia.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article David Livingstone, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.