Mae'r Hypothesis Sapir-Whorf yn ymwneud â'r berthynas rhwng iaith a meddwl.
Dywed fod perthynas drwyadl rhwng categorïau gramadegol iaith ac ymddygiad a dehongliad o'r byd ar ran y sawl sy'n ei siarad. Hynny yw, fod y ffordd yr ydym yn edrych ar y byd yn cael ei llunio gan yr iaith yr ydym yn ei siarad: rydym yn deall y byd trwyddi. Gan nad yw unrhyw ddwy iaith yn cynrychioli'r byd yn yr un ffordd, bydd rhywun sy’n siarad Almaeneg yn gweld y byd yn wahanol i siaradwr Yakut er enghraifft. Mae sawl ffurf - cryf a gwan - i'r ddamcaniaeth.
Dadleuodd y llenor ac athronydd Sansgrit Bhartrihari (6g) fod iaith yn angori meddyliau. Cyflwynodd Wilhelm von Humboldt cysyniad tebyg i lawer yn y gorllewin yn ei draethawd Über das vergleichende Sprachstudium. Mae syniadau tebyg i'r ddamcaniaeth yn boblogaidd, a dedlir fod iaith yn cadw diwylliant at ei gilydd, bod unigolion yn teimlo’n rhan o’r un un peth drwy rannu’r un iaith. Hefyd dywed rhai fod iaith yn ffordd i wahaniaethu pobl a chodi ymwybyddiaeth o arwahaniaeth, neu mai'r gwahaniaeth mwyaf sylfaenol mewn cymdeithas yw iaith.
Honodd Whorf, a oedd yn ddisgybl i Sapir, fod iaith mor bwerus nes ei bod yn ‘mowldio’ ein safbwynt ar y byd yn llwyr a bod gan bobl sy’n siarad gwahanol ieithoedd gwahanol safbwynt ar y byd.
Erbyn heddiw, nid oes lawer o bobl yn credu yn fersiwn cryfaf y ddamcaniaeth Sapir-Whorf. Yn ôl Fasold,
Cwestiwn poblogaidd yw ‘Beth am bobl ddwyieithog?’. Mae'r rhain yn amlygu problemau yn Hypothesis Sapir-Whorf. Fodd bynnag, mae llawer yn derbyn y ddamcaniaeth fod yna berthynas hanfodol rhwng iaith a chymdeithas, a bod iaith hefyd yn fodd o bwysleisio gwahaniaethau. Dywed Bordieu,
Mae rhai gwladwriaethau yn mabwysiadau un iaith yn unig, ac mae yna lawer o ieithoedd nad oes ganddynt statws swyddogol o fewn unrhyw wlad. Fodd bynnag, o fewn y wladwriaeth ceir amrywiaeth ac amlygir hyn gan y ffaith fod yna tua 190 o wladwriaethau yn y byd yn cynnal tua 6,000 o ieithoedd - tua 30 iaith i bob gwladwriaeth ar gyfartaledd. Medd Duranti
Er fod iaith yn ein mowldio, nid iaith yw’r unig beth sy’n gwneud hyn. Rydym yn gweld drwy batrymau hanesyddol fod y wladwriaeth yn dueddol o ormesi amrywiaeth ieithyddol.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Damcaniaeth Sapir-Whorf, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.