Mater rhyngseryddol yw'r deunydd, nwy Hydrogen a llwch yn bennaf, sydd i'w cael yn y gofod rhwng sêr ein galaeth ni (y Llwybr Llaethog) ac sy'n neilltuol o ddwys rhwng ei freichiau troellog.
Fe'i ceir ar ffurf cymylau ionedig poeth, er enghraifft, rhanbarthau rhyngseryddol llai dwys ac oerach, neu gymylau dwys o hidrogen moleciwlar a moleciwlau eraill. Yn ogystal ceir cronynnau llwch yn y gofod ledled y galaeth.
Credir fod y llwch a nwy hyn yn tarddu o hen sêr, gweddillion supernovae. Mae rhai o'r cymylau mater rhyngseryddol yn feithrinfeydd sêr newydd.
Field, Goldsmith & Habing (1969) oedd y cyntaf i sgwennu papur ar y mater hwn, gyda McKee & Ostriker (1977) yn ychwanegu'r drydedd rhan. Y prif arbenigwr yng Nghymru ar fater rhyngseryddol a'i astudiaeth yw'r athro Chandra Wickramasinghe, sy'n gweithio yng Nghaerdydd.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Mater rhyngseryddol, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.