Dymchwelwyd llywodraeth yr Arlywydd Alpha Condé gan luoedd arfog Gini mewn coup d'état ar 5 Medi 2021.
Y bore hwnnw, yn y brifddinas Conakry, cafodd Palas Arlywyddol Sekhoutoureah ei amgylchynu gan fiwtiniwyr. Wedi brwydr saethu rhwng y gwrthryfelwyr a'r lluoedd a oedd yn ffyddlon i'r arlywydd, cafodd Condé ei arestio. Datganodd y swyddog lluoedd arbennig Mamady Doumbouya bod y llywodraeth wedi ei ddymchwel, y cyfansoddiad wedi ei ddirymu, a ffiniau'r wlad wedi eu cau. Condemniwyd y coup gan nifer o lywodraethau eraill a sefydliadau rhyngwladol, ond bu nifer o bobl Gini yn croesawu'r newid grym.
Enghraifft o'r canlynol | coup d'état |
---|---|
Dyddiad | 5 Medi 2021 |
Lladdwyd | 0 |
Lleoliad | Conakry |
Gwladwriaeth | Gini |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Etholwyd Condé yn Arlywydd Gini yn 2010, a chafodd ei ail-ethol yn 2015 ac yn 2020. Yn ystod y cyfnod hwn, tyfodd economi'r wlad o ganlyniad i echdynnu adnoddau naturiol, yn bennaf cloddio bocsit, ond ni chafodd hyn fawr o effaith ar sefyllfa ariannol trwch y boblogaeth. Yn 2019–21, yn sgil ymgais lwyddiannus Condé i newid y cyfansoddiad er mwyn ei alluogi i ymgyrchu am drydydd dymor yn y swydd, ysgogwyd protestiadau a therfysgoedd ar draws Gini, ac ymateb llawdrwm gan yr heddlu a'r llywodraeth, a bu farw rhwng 50 a 100 o bobl. Cafodd gwleidyddion o bleidiau eraill eu harestio, a bu farw rhai ohonynt yn y ddalfa. Cynyddodd prisiau bwyd a nwyddau eraill, ac yn Awst 2021 cyhoeddodd llywodraeth Condé y byddai'n codi trethi, cwtogi ar gyllido'r heddlu a'r lluoedd arfog, a rhoi mwy o arian i swyddfa'r Arlywydd ac i'r Cynulliad Cenedlaethol.
Yn sgil y coup, cynyddodd prisiau bocsit i'w lefel uchaf ers deng mlynedd. Ceisiodd Doumbouya dawelu'r diwydiant bocsit drwy gadw'r ffin ar y môr yn agored i alluogi allforion bocsit, ac i ryddhau'r sector cloddio rhag y cyrffyw a orfodwyd yn y nos.
Ar Hydref 1, 2021, cymryodd Mamady Doumbouya ei lw fel llywydd dros dro.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Coup d'état Gini (2021), which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.