Microbiolegydd o Gymru yw Colin Hughes PhD ScD FLSW (ganwyd 14 Mawrth 1953) sydd wedi defnyddio dulliau bioleg foleciwlaidd a strwythurol i astudio ffyrnigrwydd, symudedd a gwrthsafiad gwrthfiotigau o facteria sy’n achosi clefydau heintus.
Mae'n Athro Emeritws Microbioleg ym Mhrifysgol Caergrawnt, yn Gymrawd Coleg y Drindod Caergrawnt, ac yn Gymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru.
Colin Hughes | |
---|---|
Ganwyd | 14 Mawrth 1953 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | microfiolegydd |
Cyflogwr | |
Gwobr/au | Cymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru |
Cafodd Hughes ei eni a'i fagu yng ngogledd-ddwyrain diwydiannol o Gymru. Ei rieni oedd May Hughes (g. Roberts) a Joseph Hughes, gweithiwr tecstilau. Fe’i addysgwyd yn Ysgol Ramadeg/Cyfun Treffynnon. Astudiodd y Gwyddorau Naturiol ym Mhrifysgol Caint, Caergaint (1971-74), lle rhwng 1974 a 1977 cynhaliodd ymchwil ar plasmidau - DNA ecstracromosomaidd - o facteria ar gyfer ei PhD o dan oruchwyliaeth yr Athro GG Meynell.
Hyfforddodd mewn tair swydd ôl-ddoethuriaeth: yn Sefydliad Ymchwil Sandoz Fienna (1977-80), ym Mhrifysgol Würzburg gyda'r Athro Werner Goebel (1980-83), ac yn Sefydliad Ymchwil Smith Kline yn Philadelphia (1884) . Yn 1985 daeth yn Ddarlithydd mewn Microbioleg yn Adran Patholeg Prifysgol Caergrawnt lle sefydlodd ymchwil i fioleg foleciwlaidd bacteria pathogen. Canolbwyntiodd ei waith ar fecanweithiau cellog sy'n sail i biogenesis ac allforio tocsin, i adeiladu fflagela sy’n caniatáu i facteria nofio , ac i yrru gwrthfiotigau allan o gelloedd bacteriol i sefydlu ymwrthedd antibiotig Mae wedi cyhoeddi dros 120 o erthyglau ymchwil, wedi'u rhestru ar Google Scholar. Cafodd ei ddyrchafu yn Ddarllenydd (Reader) yn 1996, ac yn 2001 yn Athro Microbioleg ym Mhrifysgol Caergrawnt, ac yn 2000 derbyniodd y radd Doethur mewn Gwyddoniaeth yno. Fe'i hetholwyd yn Gymrawd Coleg y Drindod, Caergrawnt ym 1997, ac yn 2012 daeth yn Gymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru. Rhwng 1985 a 2018 bu Hughes yn dysgu myfyrwyr Gwyddor Naturiol, Meddygol a Milfeddygol y Brifysgol yn yr Adran Patholeg, lle daeth yn Gyfarwyddwr Addysgu (2011-17). Bu’n Gyfarwyddwr Astudiaethau mewn Gwyddorau Meddygol yng Ngholeg y Drindod rhwng 1997 a 2017. Roedd o’n Bennaeth Adran Microbioleg a Pharasitoleg yr Adran Patholeg rhwng 1998 a 2017, ac yn Ddirprwy Bennaeth yr Adran rhwng 2011 a 2017.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Colin Hughes, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.