Coedwig ym Morgannwg oedd Coed Glyn Cynon, a dorrwyd yn yr 16g gan ddiwydianwyr o Loegr er mwyn cael golosg.
Mae cerdd adnabyddus o'r un enw gan fardd anhysbys yn galaru colli'r goedwig ac yn melltithio ei difethwyr.
Mae union leoliad Coed Glyn Cynon yn ansicr. Mae'n debyg ei fod yn llenwi rhan sylweddol o ran isaf Cwm Cynon (yn ardal Rhondda Cynon Taf heddiw) ym Morgannwg. Dywedir yn y gerdd iddo ei fod yn ymestyn o Aberdâr drwy blwyf Merthyr a Llanwynno i Lanfabon ac yn cynnwys coed derw a bedw.
Torrwyd y coed gan ddiwydiannwyr o Loegr er mwyn cael golosg ar gyfer toddi haearn, cyn darganfod glo yn yr ardal. Ymatebodd bardd cyfoes ond anhysbys i hynny drwy gyfansoddi galarnad i'r goedwig. Yn y gerdd, sydd ar fesur rhydd, mae'n gresynu colli llannerchoedd lle cyrddai cariadon dan y deri a'r bedw ac a oedd yn gartref i adar ac anifeiliaid niferus gan gynnwys ceirw o sawl rhywogaeth a thyrchod. Cyfeirir hefyd at "geirw cochion" yn gorfod encilio oddi yno i "ddugoed Mawddwy"; cyfeiriad at herwyr lleol tebyg i Gwylliaid Cochion Mawddwy efallai.
Nodweddir y gerdd gan ei hysbryd o Gymreictod a gwrth-Seisnigrwydd. Melltithir "holl blant Alis ffeilsion" am yr anfadwaith o dorri'r coed gan ddymuno iddynt fod "ynghrog yng ngwaelod eigion".
Mae'r awdur yn anhysbys ond ar ddiwedd y gerdd mae'r bardd yn datgan ei fod yn "Dyn a fu gynt yn cadw oed / Dan fforest Coed Clyn Cynon."
Ceir testun y gerdd 'Coed Glyn Cynon' mewn sawl llyfr a blodeugerdd Gymraeg, yn cynnwys:
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Coed Glyn Cynon, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.