Gŵr a ddatblygodd technegau corfflunio a rhaglenni ymarfer corff oedd Charles Atlas (ganed Angelo Siciliano; 30 Hydref 1892 – 23 Rhagfyr 1972) Fe'i ganwyd yn Acri, yr Eidal.
Charles Atlas | |
---|---|
Ganwyd | 30 Hydref 1892 Acri |
Bu farw | 23 Rhagfyr 1972, 24 Rhagfyr 1972 Long Beach, Efrog Newydd |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America, yr Eidal, Teyrnas yr Eidal |
Galwedigaeth | perfformiwr mewn syrcas, model |
Prif ddylanwad | Bernarr Macfadden |
Gwefan | http://www.charlesatlas.com |
Yn ôl Atlas, hyfforddodd ei gorff gan ei newid o fod yn "scrawny weakling" i fod yn corffluniwr mwyaf llwyddiannus ei oes. Dechreuodd ddefnyddio'r ffugenw "Charles Atlas" ar ôl i'w ffrind ddweud wrtho ei fod yn debyg i'r cerflun o Atlas ar ben gwesty yn Coney Island a newidiodd ei enw'n swyddogol yn 1922. Sefydlwyd ei gwmni, Charles Atlas Ltd., ym 1929. Bu farw yn Long Beach, Efrog Newydd. Yn 2010, roedd ei raglen hyfforddi yn parhau i fod ar y farchnad. Bellach perchennog y cwmni yw Jeffrey C. Hogue.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Charles Atlas, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.