Chwaraeon cyswllt llawn Albanaidd ydy Camanachd neu Iomain (Saesneg: Shinty).
Chwaraeir y gamp gyda ffon a phêl. Yn Ucheldiroedd yr Alban y dechreuodd y gêm, ac ucheldirwyr wedi symud i ddinasoedd yr Alban sy'n ei chwarae gan mwyaf ond tan yn ddiweddar arferid ei chwarae yn Lloegr a rhai gwledydd eraill ble gwelid mewnlifiad o Ucheldiroedd yr Alban.
Mae'r gêm yn perthyn i deulu campau hoci sy'n boblogaidd ar draws y byd mewn gwahanol ffurfiau. Mae'n debyg i hurling yn yr Iwerddon ac i'r gêm werin Bando a arferid ei chwarae yng Nghymru.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Camanachd, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.