Bando

Math o chwarae a fu'n boblogaidd gan y werin ledled Cymru oedd bando.

    Ar gyfer y grŵp pop Cymraeg o'r 1980au, gweler Bando (band)

Roedd yn perthyn i deulu campau hoci yn debyg i hoci neu hurley ond amrywiai'r rheolau o fro i fro. Roedd yn arbennig o boblogaidd yn y 18g ond parhaodd mewn rhannau o'r wlad hyd tua diwedd y 19g.

Arferid ei chwarae ar feysydd gwastad, weithiau ar draethau, rhwng dau dîm o hyd at hanner cant o chwaraewyr yr un. Fel chwaraeon gwerinol eraill, nid oedd rheolau pendant ar wahân i'r nod o yrru pêl i gôl ar y naill pen a'r llall o'r maes chwarae, a oedd weithiau'n eang iawn. Defnyddiai'r chwaraewyr pren wedi'i dorri'n arbennig ar gyfer y chwarae gyda math o flaen crwca: dyma'r bando.

Cyfeiria John Elias (a ystyriai ei fod yn chwarae anfoesol) a Lewis Morris at chawarae bando yng ngogledd Cymru, a chofiai David Lloyd George am chwarae bando ym mhlwyf Llanystumdwy, Eifionydd.

Ond ceir y dystiolaeth orau o fro Morgannwg yn y de. Yno yr oedd plwyfi a phentrefi cyfagos yn cystadlu â'i gilydd a thyrrai rhai miloedd o bobl i weld y chwarae weithiau, yn arbennig ar arfordir de Bro Morgannwg. Cyfeiria un tyst at chwarae bando ar y twyn ym mis Ebrill 1777. Dywedai fod dynion, merched a phlant yn mynd yno. Roedd gan pob chwaraewr tri bando gan eu bod yn torri'n aml. Dywed Iolo Morganwg ei fod yn arfer gwneud prennau bando o brennau onn ac yw irwydd, pan yn fachgen yn ardal Trefflemin a'u gwerthu i'r chwaraewyr am rwng 3c a 6c yr un. Parhaodd chwarae bando yn y Fro hyd chwarter olaf y 19eg ganrif: ceir disgrifiad cofiadwy yn y gyfrol Hanes Siencyn Penhydd (1850) gan Edward Mathews, Ewenni.

Cyfeiriadau

  • Meic Stephens (gol.), Cydymaith i lenyddiaeth Cymru.
  • G. J. Williams, Iolo Morganwg (Caerdydd, 1956)

Tags:

18g19gCymruHociHoci (campau)

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

Catrin ferch Owain Glyn DŵrY rhyngrwydSul y BlodauTabernacl tunRadioGwledydd y bydAnilingusHexVirginiaNodiant cerddorolNewyn Mawr IwerddonMathilde BonapartePervez MusharrafAthrawiaeth Brezhnev2 TachweddRhestr gwledydd yn nhrefn eu harwynebeddLyn EbenezerY Dywysoges SiwanGoresgyniad Wcráin gan Rwsia yn 2022Béla BartókWicipediaRhestr enwau Cymraeg ar lefydd yn LloegrGweriniaeth Pobl TsieinaNeft KəşfiyyatçılarıFarmer's DaughtersAmgylcheddaethHentaiDinas LlundainMET-ArtHugo ChávezY Deyrnas UnedigS4CBarbara BushRhyfel Cartref Affganistan (1989–92)69 (safle rhyw)Rowan AtkinsonAlbert CamusRwmanegTîm Pêl-droed Cenedlaethol RwsiaAlexander VlahosOboHuey LongViv ThomasTîm pêl-droed cenedlaethol CymruUsenetRabbi MatondoFietnamBaudouin, brenin Gwlad BelgSian PhillipsWilliam Jones (ieithegwr)Border CountryCanghellor y TrysorlysPornoramaCnofilCymedrKirsten OswaldTisanidinY Tebot PiwsDic JonesNobuyuki Kato1922Peiriant WaybackCeri Rhys MatthewsAmmanDydd Gwener y GroglithOrson WellesAberjaberBasŵn🡆 More