Roedd John Rackham ( 26 Rhagfyr, 1682 – 18 Tachwedd, 1720), a oedd yn cael ei adnabod fel Calico Jack, yn forleidr Seisnig a oedd yn gweithredu yn y Bahamas ac yng Nghiwba yn gynnar yn y 18g.
Roedd ei lysenw'n deillio o'r dillad calico a wisgai, tra bod Jack yn foesenw ar gyfer "John".
Calico Jack | |
---|---|
Ganwyd | 27 Rhagfyr 1682 Bryste |
Bu farw | 18 Tachwedd 1720, 17 Tachwedd 1720 Port Royal |
Dinasyddiaeth | Lloegr |
Galwedigaeth | gwleidydd, môr-leidr |
Partner | Anne Bonny |
Roedd Rackham yn weithgar rhwng 1718 a 1720, yn ystod "Oes Aur y Môr-ladron" a barhaodd rhwng 1650 a 1725. Fe'i cofir yn bennaf am gael dwy aelod benywaidd yn ei griw: Mary Read a'i gariad, Anne Bonny.
Diorseddodd Rackham Charles Vane o'i swydd fel capten y sloop Ranger, ac yna mordeithio Ynysoedd Leeward, Sianel Jamaica a'r Windward Passage. Derbyniodd bardwn ym 1719 a symudodd i New Providence, lle cyfarfu ag Anne Bonny, a oedd yn briod â James Bonny ar y pryd. Dychwelodd i fôr-ladrata ym 1720 trwy ddwyn sloop Prydeinig ac ymunodd Anne ag ef. Roedd eu criw newydd yn cynnwys Mary Read, a oedd yn cel-wisgo fel dyn ar y pryd. Ar ôl ychydig o lwyddiant, cipiwyd Rackham gan yr heliwr môr-ladron Llynges Frenhinol Prydain, Jonathan Barnet ym 1720. Cafodd ei roi ar brawf gan Syr Nicholas Lawes, Llywodraethwr Jamaica, a chafodd ei grogi ym mis Tachwedd y flwyddyn honno yn Port Royal, Jamaica.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Calico Jack, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.