Bwlch yn y Mynydd Du, Powys yw Bwlch yr Efengyl (Saesneg: Gospel Pass).
Mae'n gorwedd rhwng Y Gelli Gandryll a Capel-y-ffin yn ne-ddwyrain Powys, bron am y ffin â Swydd Henffordd, Lloegr. Dyma'r bwlch uchaf yng Nghymru sydd â ffordd fodur gyhoeddus yn arwain drosto.
Disgyn o Fwlch yr Efengyl i gyfeiriad Dyffryn Ewias | |
Math | bwlch |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Powys |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 51.9044°N 3.0201°W |
Gorwedd pen y bwlch 549 metr (1,800 troedfedd) i fyny rhwng mynyddoedd Twmpa (690 m), i'r gorllewin a Hay Bluff (677 m), i'r dwyrain, o fewn ffiniau Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Mae lôn fynydd yn ei groesi sy'n rhan o Lôn Las Cymru, y llwybr beicio cenedlaethol.
O ben y bwlch ceir golygfeydd dros Ddyffryn Ewias i'r de a Dyffryn Gwy i'r gogledd.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Bwlch yr Efengyl, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.