Clefyd heintus a achosir gan firws brech y mwnci yw brech y mwnci (a enwyd yn mpox gan Sefydliad Iechyd y Byd) sydd yn effeithio ar rai anifeiliaid, gan gynnwys bodau dynol.
Mae symptomau yn dechrau gyda thwymyn, cur pen, poen yn y cyhyrau, chwyddo'r chwarennau lymff, a theimlo wedi blino, ac yna ceir brech sydd yn ffurfio pothelli ac yn ymgrawennu. Ymddangosir y symptomau cyntaf rhyw ddeng niwrnod wedi cysylltiad â'r firws, a pharheir y symptomau am ddwy i bedair wythnos, gan amlaf.
Lledaenir brech y mwnci trwy sawl modd, gan gynnwys cyffwrdd cig y gwyllt, brathiad neu grafiad gan anifail, hylifau'r corff, gwrthrychau heintiedig, neu gysylltiad agos â rhywun sydd wedi ei heintio. Credir i'r firws darddu o gnofilod yn Affrica. Gellir cadarnhau diagnosis drwy brofi anaf ar y croen am DNA y firws. Gall yr afiechyd ymddangos yn debyg i frech yr ieir.
Gallai brechlyn y frech wen atal haint brech y mwnci gydag effeithioldeb o 85%. Yn 2019, derbyniwyd defnydd y brechlyn Jynneos yn erbyn brech y mwnci ar gyfer oedolion yn Unol Daleithiau America. Nid oes yr un briod feddyginiaeth ar gyfer brech y mwnci feddygol; gall y cyffuriau cidofovir a brincidofovir fod yn effeithiol i raddau. Yn Affrica, gall y gyfradd marwolaeth fod mor uchel â 10% heb driniaeth.
Ymddengys y clefyd fel arfer yng Nghanolbarth a Gorllewin Affrica. Darganfyddwyd y firws yn gyntaf ymhlith mwncïod mewn labordai ym 1958. Canfuwyd yr achosion cyntaf ymhlith bodau dynol ym 1970 yng Ngweriniaeth Ddemocrataidd y Congo. Yn 2003 cafwyd 71 o achosion yn yr Unol Daleithiau o ganlyniad i lygod codog a fewnforiwyd o Ghana i siopau anifeiliaid. Yn 2022 cafwyd yr achosion cyntaf o drosglwyddo brech y mwnci rhwng bodau dynol y tu hwnt i Affrica, a hynny yn y Deyrnas Unedig.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Brech y mwnci, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.