Arcêd siopa Fictoraidd rhestredig Gradd II yng nghanol Wrecsam, gogledd-ddwyrain Cymru, yw'r Arcêd Ganolog (“Central Arcade”).
Math | arcêd siopau |
---|---|
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Offa |
Sir | Rhos-ddu |
Gwlad | Cymru |
Uwch y môr | 82.2 metr |
Cyfesurynnau | 53.045376°N 2.992828°W |
Cod post | LL11 1AG |
Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd II |
Manylion | |
Mae'r arcêd yn cysylltu Stryt yr Hôb, un o brif strydoedd masnachol y ddinas, â Marchnad y Cigyddion, marchnad dan do hanesyddol ar y Stryt Fawr. Mae'r arcêd yn dal i weithio ac wedi cadw llawer o'i nodweddion gwreiddiol.
Adeiladwyd yr Arcêd Ganolog yn 1891, ar sail dyluniad y pensaer Alfred C. Baugh (roedd Baugh yn bensaer ar gyfer adeiladau eraill yng nghanol Wrecsam, fel swyddfa yr post (1885) ac yr Eglwys Methodistiaid Jerwsalem (1883) ).
Yn 1890 sefydlwyd cwmni (“the Wrexham Arcade Company, Limited”) i ddylunio ac adeiladu'r arcêd ar safle siop y brethynnwr Charles Davies (roedd Mr Davies un o brif hyrwyddwyr y prosiect).
Agorwyd yr arcêd ym mis Tachwedd 1891. Fe'i gelwid yn wreiddiol fel yr 'Hope Street Arcade'.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Arcêd Ganolog, Wrecsam, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.