Chwaraewr Rygbi'r Undeb o Gymro yw Alun Wyn Jones, OBE (ganed 19 Medi 1985).
Mae'n chwarae i'r Gweilch ac yn gapten ar dîm Cymru ers 2017.
Alun Wyn Jones | |
---|---|
Ganwyd | 19 Medi 1985 Abertawe |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | chwaraewr rygbi'r undeb |
Taldra | 198 centimetr |
Pwysau | 117 cilogram |
Gwobr/au | OBE |
Chwaraeon | |
Tîm/au | Tîm rygbi'r undeb cenedlaethol Cymru, Y Gweilch, Y Llewod Prydeinig a Gwyddelig, Tîm rygbi'r undeb cenedlaethol Cymru dan 20 oed |
Safle | Clo |
Gwlad chwaraeon | Cymru |
Ar ôl chwarae dros Gymru ar lefel dan-21, enillodd ei gap gyntaf dros Gymru yn erbyn yr Ariannin.
Mae wedi chwarae dros Gymru fel blaenwr mewn nifer o safleoedd; yn ystod gemau'r Chwe Gwlad yn 2007 roedd yn safle clo.
Ef oedd capten tîm Cymru a enillodd y Gamp Lawn 2019 ac fe'i enwyd yn 'Chwaraewr Pencampwriaeth y Chwe Gwlad 2019'.
Ar 29 Medi 2019, mewn gêm yn erbyn Awstralia yng Nghwpan Rygbi'r Byd 2019, enillodd ei 130eg cap dros Gymru gan ddod y chwaraewr gyda'r mwyaf o gapiau, yn curo record Gethin Jenkins.
Ar 24 Hydref 2020, daeth Jones yn gyfartal gyda record Richie McCaw am y nifer mwyaf o ymddangosiadau yn rygbi rhyngwladol, sef 148 cap, yng ngêm Cymru yn erbyn Ffrainc, a gollwyd 38-21. Curodd y record yr wythnos ganlynol gyda 149 cap, wrth i Gymru chwarae yng ngêm olaf pencampwriaeth y Chwe Gwlad ym Mharc y Scarlets. Collodd Cymru y gêm 10–14 wrth i'r Albanwyr sicrhau eu buddugoliaeth gyntaf oddi cartref yn erbyn Cymru ers 2002.
Mae'n briod a Dr Anwen Jones ac mae ganddynt ddwy ferch.
Astudiodd yn rhan amser ar gyfer gradd yn y gyfraith ym Mhrifysgol Abertawe, gan raddio yng Ngorffennaf 2010. Derbyniodd radd er anrhydedd gan y Brifysgol yng Ngorffennaf 2014
Derbyniodd OBE yn Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines 2020, am ei wasanaeth i Rygbi'r Undeb yng Nghymru.
Rhagflaenydd: Sam Warburton | Capten tîm rygbi'r undeb cenedlaethol Cymru 2017 – | Olynydd: presennol |
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Alun Wyn Jones, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.