Aberth Dynol

Lladd bod dynol er offrymu ei fywyd i dduw neu fod goruwchnaturiol tebyg yw aberth dynol.

Fel arfer nodir yr arfer gan bwysigrwydd tywallt gwaed a'i gysylltiad â'r enaid neu rym bywyd, ond ceir hefyd enghreifftiau o aberth dynol trwy dagu neu foddi.

Aberth dynol
Aberth Dynol
Darluniad o aberth dynol yr Asteciaid yn Llawysgrif Magliabechiano (16g).
MathAberth, dynladdiad, achos marwolaeth Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Y Celtiaid

Yn ôl yr awduron clasurol, yn eu plith Diodorus Siculus, Strabo, a Tacitus, ymarferwyd aberth dynol gan Geltiaid y cyfandir a Cheltiaid Ynysoedd Prydain ac Iwerddon. Y disgrifiad enwocaf ydy ardystiad Iŵl Cesar o ddyn gwellt enfawr yn llawn pobl ac anifeiliaid a gafodd ei losgi. Mae Tacitus yn lladd ar ddefodau'r Celtiaid ac yn haeru bod y derwyddon yn diberfeddu caethion ar yr allor er ymysgarddewiniaeth, sef darogan neu gyfathrebu â'r duwiau drwy edrych ar organau mewnol.

Ysgrifennai awduron diweddarach taw athrod oedd cyhuddiadau'r Rhufeiniaid, a bod aberth dynol yn ddefod brin gan y Celtiaid. Mae'n bosib yr oedd yn ffurf ar y gosb eithaf, a lleddid troseddwyr a charcharorion yn unig. Cafwyd hyd i gyrff mewn corsydd mewn amodau sy'n awgrymu iddynt gael eu haberthu, ac mae gan y rhain foliau llawn bwyd a gwallt ac ewinedd o gyflwr da. Mae'n debyg felly i garcharorion o statws uchel gael eu trin yn dda cyn eu haberthu. Mae ambell chwedl Geltaidd, er enghraifft Togail Bruidne Dá Derga yng Nghylch Wlster, yn sôn am aberth dynol.

Cyfeiriadau

Tags:

Bod dynolDuwGwaedOffrymu

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

De Clwyd (etholaeth seneddol)American Dad XxxSimon BowerSefydliad WikimediaLlanw LlŷnDyn y Bysus EtoGwenallt Llwyd IfanEmily Greene BalchGwobr Goffa Daniel OwenCalsugnoO. J. SimpsonCIABad Day at Black RockTrydanEleri Morgan1971CaerAlan TuringDydd IauAfon Taf (Sir Gaerfyrddin)Philippe, brenin Gwlad BelgBwcaréstLlygreddImmanuel KantDwyrain SussexProtonMississippi (talaith)Eigioneg2020auRhyfel yr ieithoeddAutumn in MarchDerek UnderwoodEiry ThomasPisoAfon TafParth cyhoeddusNovialDonald TrumpTsukemonoCaeredinThe Times of IndiaHugh EvansWikipediaCymdeithas yr IaithFloridaCorsen (offeryn)KentuckySaesnegVolodymyr ZelenskyyBataliwn Amddiffynwyr yr IaithMinnesotaCymraegYsgol Dyffryn AmanGina GersonLlundainLorna MorganEmyr DanielTudur Owen1933Rhestr dyddiau'r flwyddynCyfathrach Rywiol FronnolWicipediaRhestr blodauPerlau TâfSteve EavesYsgyfaintRwsia🡆 More