Academydd o Gymraes oedd y Dr Morfydd E.
Owen (26 Ionawr 1936 – 17 Mawrth 2024). Roedd yn arbenigwraig ar destunau cyfreithiol a meddygol yr Oesoedd Canol.
Morfydd E. Owen | |
---|---|
Ganwyd | Morfydd Elizabeth Owen 26 Ionawr 1936 Fochriw |
Bu farw | 17 Mawrth 2024 Llanfarian |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | hanesydd, academydd |
Fe'i ganwyd yn unig ferch i Edward a Phyllis Owen, ac fe'i magwyd yn Ivy Cottage ym mhentre’ Fochriw. Roedd teulu ei thad-cu, Mordecai Evans, yn hanu o fferm fynydd yn Nefynnog. Pan oedd Morfydd yn hŷn symudodd ei rhieni i fyw yn agos at Lyn Syfaddan yn Llan-gors.
Roedd yn un o dîm prosiect Beirdd y Tywysogion ac yn un o Gymrodyr Hŷn y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd yn Aberystwyth. Roedd yn un o sylfaenwyr Seminar Cyfraith Hywel yn y 1970au, a bu’n Ysgrifennydd i’r Seminar am 36 o flynyddoedd.
Cyhoeddwyd y gyfrol ysgrifau Cyfarwydd Mewn Cyfraith er anrhydedd iddi, gan Gymdeithas Hanes Cyfraith Cymru yn 2017.
Priododd ei gŵr Howard Davies (5 Tachwedd 1924 – 27 Mehefin 2012) yng Nghapel y Plough yn Aberhonddu. Roedd Howard yn feddyg a darlithydd ac roedd ganddo un ferch o'i briodas gyntaf, Melanie. Gyda'i gilydd cawsant ddau blentyn, Luned a Bríd.
Bu farw Morfydd yn 88 mlwydd oed. Cafwyd gwasanaeth angladdol cyhoeddus yn Eglwys Llanychaearn ger Llanfarian ar ddydd Mercher, 27 Mawrth 2024 am 2 y prynhawn.
Cafwyd teyrnged iddi gan Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd - "Diolchwn am ei chyfraniad sylweddol i ysgolheictod, a’i chyfeillgarwch a’i chefnogaeth ar hyd y blynyddoedd".
Cafwyd teyrnged hefyd gan Wasg Prifysgol Cymru yn dweud "Meddai ar ysgolheictod disglair, a chyhoeddodd weithiau helaeth yn ymdrin â barddoniaeth llys a rhyddiaith ganoloesol Cymru".
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Morfydd E. Owen, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.