Mae Dameg y Mab Afradlon yn un o ddamhegion yr Iesu , sy'n ymddangos yn yn y Beibl yn Efengyl Luc 15:11–32.
Mae'r Iesu’n rhannu’r ddameg gyda’i ddisgyblion, y Phariseaid, ac eraill.
Enghraifft o'r canlynol | damhegion yr Iesu |
---|---|
Rhan o | Luc 15 |
Cymeriadau | y mab afradlon |
Prif bwnc | afradwr |
Yn cynnwys | Dychweliad y Mab Afradlon |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Yn y stori, mae gan dad ddau fab. Mae'r mab ieuengaf yn gofyn am ei gyfran o'i etifeddiaeth oddi wrth ei dad, sy'n caniatáu cais ei fab. Mae'r mab hwn, fodd bynnag, yn afradlon (hy, yn wastraffus ac yn ofer), ac felly'n gwastraffu ei ffortiwn ac yn y pen draw yn mynd yn dlawd. O ganlyniad, rhaid iddo ddychwelyd adref yn waglaw gyda'r bwriadu o erfyn ar ei dad i'w dderbyn yn ol fel gwas. Er mawr syndod i’r mab, nid yw’n cael ei ddirmygu gan ei dad ond caiff ei groesawu’n ôl gyda dathlu a gwledd croesawgar.
Yn genfigennus, mae'r mab hŷn yn gwrthod cymryd rhan yn y dathliadau. Mae'r tad yn dweud wrth y mab hynaf: Fy mab, yr wyt ti yn wastadol gyda mi, a'r eiddof fi oll ydynt eiddot ti. Rhaid oedd llawenychu, a gorfoleddu: oblegid dy frawd hwn oedd yn farw, ac a aeth yn fyw drachefn; ac a fu golledig, ac a gafwyd.
Y Mab Afradlon yw trydedd ddameg a'r olaf mewn cylch prynedigaeth, yn dilyn Dameg y Ddafad Golledig a dameg y Darn Arian Coll.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Dameg y Mab Afradlon, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.