Cadwyn o fynyddoedd yng ngogledd Sbaen yw Mynyddoedd Cantabria (Sbaeneg: Cordillera Cantábrica, Astwrieg: Cordelera Cantábrica, Galisieg: Cordal Cantábrico) sydd yn ymestyn ar hyd yr arfordir â Môr Cantabria am ryw 300 km, o Fasiff Galisia yn y gorllewin a thrwy daleithiau Asturias a León, Cantabria, Palencia a Burgos, hyd at y Pyreneau yng Ngwlad y Basg yn y dwyrain.
Copa ucha'r gadwyn yw Torre Cerredo (2,650 m), a leolir yn grŵp Picos de Europa yng nghanolbarth Mynyddoedd Cantabria.
Golwg ar Fynyddoedd Cantabria, yn gyfochrog â Môr Cantabria, fel y gwelir o gopa Castro Valnera. Yn y cefndir, gwelir Parc Cenedlaethol Montaña Palentina ar y chwith a Picos de Europa ar y dde. | |
Math | mynyddoedd nad ydynt yn gysylltiedig, yn ddaearegol, cadwyn o fynyddoedd |
---|---|
Enwyd ar ôl | Môr Cantabria |
Daearyddiaeth | |
Sir | Cantabria, Asturias, Galisia, Castilla y León, Cymuned Ymreolaethol Gwlad y Basg |
Gwlad | Sbaen |
Uwch y môr | 2,648 metr |
Yn ffinio gyda | Meseta |
Cyfesurynnau | 43.1975°N 4.8517°W |
Hyd | 480 cilometr |
Deunydd | calchfaen |
Saif y mynyddoedd mewn rhanbarth coediog, yn llawn ffawydd a phinwydd arfor, a chyfoethog yn nhermau'i adnoddau naturiol, gan gynnwys glo a haearn. Cynhyrchir trydan dŵr o'r nentydd ar lethrau gogleddol y mynyddoedd ar gyfer trefi'r arfordir, a defnyddir yr afonydd hirach yn y de i ddyfrhau ffermydd. Prif sector amaethyddol yr ardal yw ffermio gwartheg. Mae'r rheilffordd o Oviedo i León yn croesi Mynyddoedd Cantabria drwy Fwlch Pajares ar uchder o 1,379 m.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Mynyddoedd Cantabria, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.