Ynysfor yn y Cefnfor Tawel yw Ynysoedd Mariana.
Maent tua hanner y ffordd rhwng Japan yn y gogledd ac ynys Gini Newydd yn y de. Hwy yw ynysoedd mwyaf gogleddol Micronesia.
Math | ynysfor |
---|---|
Enwyd ar ôl | Mariana o Awstria |
Poblogaeth | 201,165 |
Cylchfa amser | UTC+10:00 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Gini Newydd Almaenig, Gwam, Ynysoedd Gogledd Mariana |
Gwlad | Unol Daleithiau America |
Arwynebedd | 1,018 km² |
Uwch y môr | 965 metr |
Gerllaw | Y Cefnfor Tawel, North Pacific Ocean |
Cyfesurynnau | 16.7°N 145.78°E |
Mae'r ynysoedd yn diriogaethau tramor yn perthyn i Unol Daleithiau America. Fe'i rhennir yn ddwy ran, gyda'r ynysoedd yng ngogledd a chanol y gadwyn yn ffurfio tiriogaeth y Marianas Gogleddol a Gwam yn y de yn diriogaeth ar ei phen ei hun. Ffurfir yr ynysoedd gan gopaon pymtheg llosgfynydd, sy'n codi o waelod y môr. I'r dwyrain o'r ynysoedd, mae dyfnder y môr yn cyrraedd 11,035 medr, y man dyfnaf yn y byd.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Ynysoedd Mariana, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.