Banc canolog Unol Daleithiau America yw'r Gronfa Ffederal (System y Gronfa Ffederal neu y Grondrefn Ffederal yn llawn; Saesneg: Federal Reserve System).
Gweithredydd ariannol y llywodraeth ffederal yw'r Gronfa Ffederal, a'i swyddogaethau yw gwarchod cyfrifon wrth gefn y banciau masnachol, i fenthyg arian i fanciau masnachol, ac i oruchwylio'r cyflenwad arian ar y cyd â Bathdy yr Unol Daleithiau.
Math | banc canolog |
---|---|
Sefydlwyd | 23 Rhagfyr 1913 |
Sefydlydd | Robert Latham Owen |
Cadeirydd | Jerome Powell |
Pencadlys | Eccles Building |
Is gwmni/au | Bwrdd Cyfarwyddwyr y Gronfa Ffederal |
Gwefan | https://www.federalreserve.gov/ |
Crewyd gan Ddeddf y Gronfa Ffederal a luniwyd gan Robert Latham Owen ac a arwyddwyd gan yr Arlywydd Woodrow Wilson ar 23 Rhagfyr 1913. Rhennir y system yn 12 o Fanciau'r Gronfa Ffederal sy'n gyfrifol am wahanol ranbarthau'r wlad. Mae hefyd yn cynnwys Bwrdd y Llywodraethwyr, Pwyllgor Ffederal y Farchnad Agored, a'r Biwro Amddiffyn Prynwyr Ariannol.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Y Gronfa Ffederal, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.