Cymdeithas gyfrinachol oedd y Y Frawdoliaeth Wyddelig, Weriniaethol (Saesneg: Irish Republican Brotherhood, IRB; Gwyddeleg: Bráithreachas Phoblacht na hÉireann) a sefydlwydd gyda'r bwriad i sefydlu Iwerddon gyfan yn weriniaeth ddemocrataidd annibynnol.
Bu'r mudiad yn bodoli rhwng 1858 a 1924. Roedd yn allweddol yn nhrefniadau Gwrthryfel y Pasg yn 1916.
Y Frawdoliaeth Wyddelig, Weriniaethol Bráithreachas Phoblacht na hÉirean Irish Republican Brotherhood | |
---|---|
Slogan | Éirinn go Brách ("Iwerddon am Byth!") |
Sefydlwyd | 1858 |
Daeth i ben | 1924 |
Rhagflaenwyd gan | Yr iwerddon Ifanc (Young Ireland) |
Papur | The Irish People |
Rhestr o idiolegau | Cenedlaetholdeb Gwyddelig |
Plaid yn y DU | Y Gwirfoddolwyr Gwyddelig (1913–1917) Y Fyddin Weriniaethol (Irish Republican Army) (1917–1922) Byddin Iwerddon (Irish Army) (1922–1924) |
Cysylltiadau Americanaidd cryf | Y Frawdoliaeth Ffeniaidd Fenian Brotherhood (1858–1867) Clan na Gael (1867–1924) |
Lliw | Gwyrdd ac Aur |
Sefydlwyd chwaer-fudiad yn Unol Daleithiau America gan John O'Mahony a Michael Doheny, mudiad a ddaeth i'w adnabod fel y Frawdolaeth Ffenaidd (Gwyddeleg: Bráithreachas na bhFíníní; Saesneg: Fenian Brotherhood, ac mewn Gaeleg, yn ddiweddarach: Clan na Gael). Gelwir aelodau'r ddau fudiad yn 'Ffeniaid'. Cymerodd y Frawdoliaeth Wyddelig, Weriniaethol (yr IRB) ran allweddol yn hanes Iwerddon (1801-1922), rhan bwysicach efallai nag unrhyw fudiad arall. Yr IRB oedd prif ladmerydd cenedlaetholdeb Gwyddelig, yn ystod yr ymgyrch dros hunanlywodraeth i Iwerddon, ac yn yr ymgyrch i dorri'n rhydd oddi wrth 'Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon'. Etifeddodd y mudiad enw da rhagflaenwyr megis y 'Gwyddelod Unedig' (United Irishmen) o'r 1790au ac 'Iwerddon Ifanc' (Young Ireland) y 1840au.
Y Frawdoliaeth Wyddelig, Weriniaethol a gynlluniodd Wrthryfel y Pasg yn 1916, ac yn y man a esgorodd ar sefydlu'r Dáil Éireann cyntaf. Wedi Rhyfel Annibyniaeth Iwerddon ac arwyddo Cytundeb Iwerddon-Lloegr yn 1921, gwawriodd llawer o'u hamcanion pan sefydlwyd 'Gwladwriaeth Rydd Iwerddon'. Ond,nid oedd yn cynnwys Gogledd Iwerddon.
Sefydlwyd yr Ulster Volunteers yn 1912 er mwyn atal annibyniaeth i Iwerddon, a hynny drwy drais. O stabl y frawdoliaeth Wyddelig y daeth mudiad arall, sef y Gwirfoddolwyr Gwyddelig, a hynny yn 1913. Defnyddiodd y Frawdoliaeth y Gwirfoddolwyr i ricriwtio aelodau cadarn e.e. Joseph Plunkett, Thomas MacDonagh, a Patrick Pearse, a gyfetholwyd yn 1915 i brif bwyllgor y Frawdoliaeth, sef yr Uwch-Gyngor, gyda Seán Mac Diarmada yn un o'r prif gynllunwyr stategol. Gydag aelodau o Fyddin Dinasyddion Iwerddon (Clarke, MacDermott, Eamonn Ceannt a James Connolly) unwyd y ddau fudiad i gynllunio fel un corff, ar gyfer gwrthryfel militaraidd a fu'n llwyddiant.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Y Frawdoliaeth Wyddelig Weriniaethol, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.