Nofel gan yr awdur Gwyddelig John Boyne (teitl gwreiddiol: The Boy in the Striped Pyjamas, 2006) wedi'i haddasu i'r Gymraeg gan Emily Huws yw Y Bachgen Mewn Pyjamas a cyhoeddwyd gan Wasg Carreg Gwalch ym mis Medi 2009, gan gyrraedd copa rhestr gwerthwyr gorau Gwales.com yr un mis.
Enghraifft o'r canlynol | gwaith llenyddol |
---|---|
Crëwr | John Boyne |
Awdur | John Boyne |
Cyhoeddwr | Gwasg Carreg Gwalch |
Gwlad | Cymru |
Iaith | Cymraeg |
Dyddiad cyhoeddi | 5 Ionawr 2006 |
Argaeledd | mewn print |
ISBN | 9781845271664 |
Dechrau/Sefydlu | 2006 |
Genre | Nofel |
Lleoliad y gwaith | Auschwitz |
Mae'n dilyn hanes yr Almaeniaid a'r Holocost o safbwynt bachgen bach. Yn wahanol iawn i'w lyfrau eraill, dywedodd Boyne iddo ysgrifennu draft cyntaf cyfan y llyfr hwn mewn deuddydd a hanner, a bu prin iddo gysgu o gwbl tan iddo ddod at y diwedd. Hyd yn hyn, ar ei ffurf gwreiddiol Saesneg, mae wedi gwerthu dros 5 miliwn copi yn fyd eang, ac wedi ei gyhoeddi dan y teitl The Boy in the Striped Pajamas yn yr Unol Daleithiau. Hwn oedd y gwerthwr gorau yn Sbaen yn 2007 a 2008. Mae hefyd wedi bod yn werthwr gorau ar restr y New York Times, yn ogystal ag ym Mhrydain, Iwerddon, Awstralia a nifer o wledydd eraill.
Stori am blant diniwed mewn byd creulon, dyna’n sicr yr hyn a gawn yn y nofel hon, a dryswch y plant diniwed hynny wrth iddynt ddirnad creulondeb enbyd rhyfel.
Wrth i deulu Bruno orfod codi pac a symud i gartref newydd, anghysurus yn sgil gwaith cyfrinachol ei dad, cawn ein tywys fel yntau i fyd annifyr o orthrwm nad oes modd i unrhyw un ei ddeall. Ond mae chwilfrydedd Bruno i wneud ffrindiau â’i gymdogion newydd yr ochr draw i’r ffens yn arwain at gyfeillgarwch heb ei ail.
Mae addasiad Emily Huws yn ganmoladwy ac yn hynod naturiol wrth iddi bortreadu perthynas Bruno â’i chwaer, ei rieni a’r milwyr sydd wastad yn llechu rhwng y pedair wal.
Mae’r darllenydd ar bigau’r drain am ei fod eisiau cael gwybod beth fydd tynged Bruno a’i ffrind newydd, Shmwel, mewn byd mor gas. Mae tynged y ddau, heb os, yn hynod o emosiynol.
Llinos Griffin
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Y Bachgen Mewn Pyjamas, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.