Milwr, gŵr busnes, addysgwr ac awdur o'r Unol Daleithiau oedd William Tecumseh Sherman (8 Chwefror 1820 - 14 Chwefror 1891).
William Tecumseh Sherman | |
---|---|
Ganwyd | 8 Chwefror 1820 John Sherman Birthplace |
Bu farw | 14 Chwefror 1891 o niwmonia Dinas Efrog Newydd |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Alma mater | |
Galwedigaeth | swyddog milwrol, cyfreithiwr, banciwr, ysgrifennwr |
Swydd | United States Secretary of War, aelod o fwrdd, aelod o fwrdd |
Cyflogwr | |
Plaid Wleidyddol | plaid Weriniaethol |
Tad | Charles Robert Sherman |
Mam | Mary Hoyt |
Priod | Eleanor Boyle Ewing Sherman |
Plant | Eleanor Sherman Thackara, Thomas Ewing Sherman, William Tecumseh Sherman |
llofnod | |
Ganed ef yn Lancaster, Ohio, yn fab i gyfreithiwr llwyddiannus. Enwyd ef ar ôl Tecumseh, pennaeth enwog y Shawnee. Gwasanaethodd fel cadfridog ym myddin y Gogledd yn Rhyfel Cartref America. Gwasanaethodd dan y Cadfridog Ulysses S. Grant yn 1862 a 1863, yn ystod y brwydrau a arweiniodd at gipio Vicksburg ar Afon Mississippi a gorchfygu byddinoedd y De yn nhalaith Tennessee. Yn 1864, dilynodd Grant fel arweinydd byddin y Gogledd yn y gorllewin. Llwyddodd i gipio dinas strategol bwysig Atlanta. Ystyrid hyn yn arwydd fod buddugolaeth y Gogledd ar y gorwel, a gwnaeth lawer i sicrhau ail-etholiad Abraham Lincoln fel Arlywydd yr un flwyddyn. Wedi hyn, dechreuodd Sherman ar ymgyrch trwy dalaith Georgia a De a Gogledd Carolina, gan greu cymaint o ddifrod nes amharu'n ddifrifol ar allu'r de i barhau'r rhyfel. Yn Ebrill 1865, ildiodd holl fyddinoedd y de yn Georgia, y ddwy Carolina a Florida iddo.
Pan ddaeth Grant yn Arlywydd, olynodd Sherman ef fel arweinydd byddin yr Unol Daleithiau. Yn y swydd yma, bu'n gyfrifol am y rhyfeloedd yn erbyn y brodorion yng ngorllewin yr Unol Daleithiau. Yn 1875, cyhoeddodd Memoirs, un o'r llyfrau mwyaf adnabyddus i ddeillio o'r Rhyfel Cartref.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article William Tecumseh Sherman, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.