William Goldman

Sgriptiwr ffilmiau, nofelydd a dramodydd Americanaidd oedd William Goldman (12 Awst 1931 – 16 Tachwedd 2018).

William Goldman
William Goldman
Ganwyd12 Awst 1931 Edit this on Wikidata
Highland Park, Illinois Edit this on Wikidata
Bu farw16 Tachwedd 2018 Edit this on Wikidata
Manhattan Edit this on Wikidata
DinasyddiaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethysgrifennwr, dramodydd, sgriptiwr, sgriptiwr ffilm Edit this on Wikidata
Adnabyddus amThe Princess Bride Edit this on Wikidata
Arddullnofel, theatre, llenyddiaeth plant Edit this on Wikidata
PlantJenny Rebecca Goldman, Susanna Goldman Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr Urdd Awduron America, Gwobr yr Academi am Ysgrifennu Gorau, Sgript Wreiddiol, Gwobr yr Academi am Ysgrifennu Gorau, Sgript Addasedig, Gwobr Edgar, Gwobr Hugo am y Cyflwyniad Dramatig Gorau Edit this on Wikidata

Plentyndod ac addysg

Ganwyd William ym maestref Highland Park ger Chicago, Illinois, yn fab i Maurice Goldman a'i wraig Marion (Weil gynt). Dyn busnes ac alcoholig oedd Maurice, a laddodd ei hunan pan oedd William yn 15 oed. Mynychodd Coleg Oberlin yn Ohio, ac weddi iddo ennill ei radd yn Saesneg yn 1952 symudodd i Ddinas Efrog Newydd i astudio ym Mhrifysgol Columbia. Derbyniodd ei radd meistr yn ysgrifennu creadigol yn 1956.

Gyrfa lenyddol

Wedi iddo adael y brifysgol, roedd disgwyl gan Goldman iddo gychwyn ar yrfa fel ysgrifennwr copi. Rhodd y gorau i'r syniad honno pan lwyddodd i werthu ei nofel gyntaf, The Temple of Gold, yn 1957. Ysgrifennodd bedair nofel arall cyn iddo ymwneud â'r diwydiant ffilm: Your Turn to Curtsy, My Turn to Bow (1958), Soldier in the Rain (1960), Boys and Girls Together (1964), a No Way to Treat a Lady (1964).

Ysgrifennodd Goldman gweithiau i'r theatr hefyd, heb fawr o lwyddiant. Perfformiwyd dwy ohonynt, a gyd-ysgrifennodd gyda'i frawd James Goldman, ar Broadway am gyfnod byr: y ddrama Blood, Sweat, and Stanley Poole (1961) a'r sioe gerdd A Family Affair (1962).

Gyrfa ffilm

Yn 1964, darllenodd yr actor Cliff Robertson y nofel No Way to Treat a Lady, a gofynodd i Goldman addasu'r nofel wyddonias Flowers for Algernon gan Daniel Keyes ar gyfer y sgrin fawr, a chytunodd yr awdur ar unwaith. Codwyd braw ar Goldman wrth iddo geisio ysgrifennu ei sgriptiau cyntaf, a chafodd ei ddiswyddo gan Robertson. Cafodd brofiad cyd-ysgrifennu drwy Americaneiddio llinellau cymeriad Robertson ar gyfer y ffilm Masquerade (1965), a'i sgript gyntaf i gael ei derbyn oedd Harper (1966) yn seiliedig ar y nofel The Moving Target gan Ross Macdonald.

Trwy gydol y 1960au, gweithiodd Goldman ar sgript ffilm yn seiliedig ar hanes y lladron banciau Robert LeRoy Parker (Butch Cassidy) a Harry Longabaugh (y Sundance Kid). Tra'r oedd yn addysgu ysgrifennu creadigol ym Mhrifysgol Princeton yn 1967, llwyddodd i werthu'r sgript i stiwdio 20th Century Fox am $400,000, y swm uchaf bryd hynny. Yn 1969 rhyddhawyd y ffilm, Butch Cassidy and the Sundance Kid, yn serennu Paul Newman a Robert Redford. Enillodd bedair Oscar, gan gynnwys gwobr i Goldman am y sgript wreiddiol orau. Roedd stori a chymeriadaeth Goldman yn rhoi gwedd "y Don Newydd", arddulliau Hollywood yn niwedd y 1960au, ar hen genre'r Gorllewin Gwyllt.

Enillodd Goldman ei ail Oscar, y wobr am y sgript orau wedi ei chyfaddasu, am y ffilm All the President's Men (1976), yn seiliedig ar y llyfr o'r un enw gan Bob Woodward a Carl Bernstein am sgandal Watergate. Ymhlith ei sgriptiau eraill yn y 1970au oedd The Stepford Wives (1975), yn seiliedig ar y nofel gan Ira Levin; Marathon Man (1976), addasiad o un o nofelau ei hunan ac yn serennu Laurence Olivier a Dustin Hoffman; y ffilm ryfel A Bridge Too Far (1977), yn seiliedig ar y llyfr hanes gan Cornelius Ryan; a'r ffilm iasoer Magic (1978) gydag Anthony Hopkins, addasiad o un arall o nofelau Goldman.

Yn nechrau'r 1980au, derbyniodd Goldman llai o waith. Yn y cyfnod hwn, ysgrifennodd ei gofiant Adventures in the Screen Trade (1983). Daeth y llyfr yn hynod o boblogaidd ac yn fath o Feibl i sgriptwyr ifainc yn Hollywood. Cyflwynodd Goldman bortread llawn amheuon o fyd y sinema o'r tu mewn, gan ddadlau nad oes fformiwla arbennig neu reolau pendant ynglŷn â llwyddiant yn y diwydiant ffilm, er gwaethaf yr hyn a ddywedai'r asiantiaid, y cynhyrchwyr, a'r swyddogion hysbysebu. Mabwysiadwyd ei ddatganiad "NOBODY KNOWS ANYTHING" yn wireb gan genhedlaeth newydd Hollywood.

Addasodd Goldman un o'i nofelau ar gyfer y sgrin fawr unwaith eto yn 1987, ac erbyn heddiw mae'r ffilm honno, The Princess Bride, yn glasur yn genre ffantasi ac yn ffilm gwlt. Ysgrifennodd y sgript am Misery (1990), yn seiliedig ar nofel gan Stephen King, ac Absolute Power (1997), ffilm gyffrous wleidyddol. Cyfrannodd hefyd, gyda sawl ysgrifennwr arall, at sgript y bywgrafflun Chaplin (1992). Ysgrifennodd cofiant arall, Hype and Glory (1990), sy'n ymdrin â'i brofiadau ym mhasiant Miss America a Gŵyl Ffilm Cannes, a chasgliad o ysgrifau am y diwydiant ffilm, The Big Picture: Who Killed Hollywood? (2000).

Bywyd personol

Priododd y ffotograffydd Ilene Jones yn 1961, ac ysgarasant yn 1991. Cawsant dwy ferch, Jenny a Susanna. Yn ddiweddarach yn ei oes, cafodd Goldman berthynas â Susan Burden. Bu farw William Goldman yn Manhattan, Dinas Efrog Newydd, yn 87 oed o ganser y colon a niwmonia.

Cyfeiriadau

Tags:

William Goldman Plentyndod ac addysgWilliam Goldman Gyrfa lenyddolWilliam Goldman Gyrfa ffilmWilliam Goldman Bywyd personolWilliam Goldman CyfeiriadauWilliam GoldmanAmericanwyrDramodyddFfilmNofelyddSgriptiwr

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

Penfras yr Ynys LasSwahiliDemolition ManElisabeth II, brenhines y Deyrnas UnedigCecilia Payne-GaposchkinPreble County, OhioSaunders County, NebraskaAngkor WatMontgomery County, OhioYmennyddMadeiraBrasilDugiaeth CernywGwenllian DaviesBeyoncé KnowlesYr Undeb SofietaiddEdith Katherine CashWebster County, NebraskaCedar County, NebraskaVergennes, VermontCynghrair y Cenhedloedd 2020–21 UEFAThomas County, NebraskaTomos a'i FfrindiauHappiness RunsAmffibiaidTebotEwropCysawd yr HaulY Sgism OrllewinolMaes Awyr KeflavíkCastell Carreg CennenJackson County, ArkansasSteve HarleyBoeremuziekLudwig van BeethovenWinslow Township, New JerseyJacob Astley, Barwn Astley o Reading 1afPrairie County, MontanaY Rhyfel Byd Cyntaf1572DiwylliantAwstraliaHocking County, OhioThe Shock DoctrineTsieciaAmericanwyr SeisnigWilliam BarlowColorado Springs, Colorado6812014Prifysgol TartuEnrique Peña NietoDe-ddwyrain AsiaMargaret BarnardSylvia Anderson1403Upper Marlboro, Maryland1680Meicro-organebAlba CalderónMahoning County, Ohio11 ChwefrorMary BarbourAlaskaThe Salton SeaWilliam BaffinRasel OckhamFertibratMonett, MissouriLady Anne BarnardSutter County, CalifforniaCerddoriaethVittorio Emanuele III, brenin yr EidalAneirin🡆 More