Cynhaliwyd Gweithdy ym Mhlas Tan y Bwlch ar 6 Mai 2017 (manylion isod). Mae'r gwaith sydd o'n blaenau'n aruthrol! Fe'i nodir isod. Ers y gynhadledd mae nifer o olygyddion newydd wedi bod wrthi'n golygu erthyglau'r Wicipedia Cymraeg.
Sylwer: Awgrymwn mai'r flaenoriaeth yw adar ynysoedd Prydain, ond gallwch ddilyn eich arbenigedd, wrth gwrs!
Mae'r Canllaw Pum Munud i'w ganfod yn y fan yma.
Mae Wicipedia:Arddull yn rhoi arddull arferol y Wicipedia Cymraeg.
Cyn gwneud dim arall, trowch i'ch Dalen Defnyddiwr (cliciwch ar eich enw ar frig eithaf unrhyw ddalen) ac ychwanegwch y cod hwn: {{Blwch Wici Natur}}. Cyhoeddwch / Cadwch / Safiwch y ddalen. Dylai'r blwch yma ymddangos:
Mae'r defnyddiwr hwn aelod oWici Natur. |
Bydd pob llun y byddwch yn ei bysgota o Comin i Wicidata yn ymddangos yn y Bywiadur!!!
Patrwm ar gyfer erthyglau newydd:
Teulu o adar yw’r ___________ , sy’n air gwyddonol neu Ladin (_________ yn Saesneg). Maent yn perthyn i’r rhiant tacson _______________. Mae aelodau’r teulu hwn o adar i’w cael yn _______________. Fel arfer maent yn adar mawr/canolig eu maint/ bychain. __________ yw eu lliw fel arfer ac o ran edrychiad maent yn _____________ gyda phigau ____________ a choesau _____________. Mae eu diet fel arfer yn cynnwys ______________.
Cofiwch hefyd ychwanegu Categori ar ddiwedd eich llith! [[Categori:Teuluoedd o adar]]
Ychwanegu llinell i ddod a ffeil sain o Comin. Awgrymwn mai'r flaenoriaeth i ni yw adar ynysoedd Prydain.
Copiwch yr enw Cymraeg i ffenest chwilio'r Wicipedia Cymraeg er mwyn canfod yr deryn. Yna, cliciwch ar 'Gweld cod y dudalen' er mwyn ei golygu.
Os yw'r geiriau canlynol yn y Wybodlen, ewch ymlaen i'r nesaf:
Mae'r linell hon o god yn bachu'r clip yn otomatig! Os nad yw'r linell yn y wybodlen, yna gludwch y linell gyfan, fel y mae - o dan y linell delwedd =.
Mae na doreth o glipiau sain ar Comin yn fama. Copiwch y rhai sy'n berthnasol i Gymru ar ddalen Wicidata ee dyma ddalen Wicidata ar 'Gwennol lifadeiniog y mynydd. Copiwch deitl y clip ar Comin a gludwch ef yn y dudalen. Bydd angen creu nodwedd newydd (Delwedd) wrth gwrs. O wneud hyn, mi wneith y clip sain ymddangos yn otomatig yn yr erthygl ar Wicipedia ac yn y Bywiadur!
Codio testun gan Twm Elias a'i roi ar erthyglau Wicipedia.
I ffindio'r Wicipedia Cymraeg, rhowch y gair 'Wicipedia' yn eich porwr (e.e. Google). Os nad ydych wedi creu cyfri, yna mae'r botwm 'Creu cyfri' ar frig dde'r ddalen: os ydych eisioes wedi creu cyfri, yna 'Mewngofnodi' fydd ei angen. Am y ddau neu dri tro cyntaf, cewch CAPTCHA (sy'n hen niwsans!) ond wedi hynny, mae eich cyfrifiadur yn cofio eich cyfrinair, hyd yn oed ar brosiectau eraill wici e.e. Comin, Wicirhywogaeth neu Wicidata. Os nad ydych yn creu cyfri, yna mi fydd y byd a'r betws yn gweld eich cyfeiriad IP!
Un o'r pethau cyntaf ddylech wneud wedi i chi fewngofnodi ydy newid iaith y rhyngwyneb. I wneud hynny, chwiliwch am 'Dewisiadau' (neu 'Preferences') a dewisiwch 'Cymraeg'. Hawdd fel baw!
Un o'r ffyrdd gorau o sicrhau cywirdeb erthyglau Wicipedia ydy i bob Defnyddiwr (neu olygydd) gadw llygad ar ddalenau y pynciau hynny sydd o ddiddordeb. Ar 'Dewisiadau' fe welwch hefyd fod modd i chi gael rhybudd pob tro y bydd rhywun yn golygu'r dalennau sydd yn eich 'Rhestr Wylio'. Ewch i waelod y 'Dewisiadau' a thiciwch y tri blwch. Rwan ta, ewch i erthygl Wicipedia y carech ei gwella / cadw llygad arni a chliciwch ar y seren (mae hon bron ar frig pob erthygl. O'i dewis, mi wnaiff ymddangos yn eich ffefrynnau / Rhestr Wylio'.
Felly, dyna ni wedi gwneud dau beth sy'n hanfodol ar gyfer golygu yn y Gymraeg: mewngofnodi a chadw llygad ar rai erthyglau! Cofiwch wneud hyn cyn y Gweithdy; mi fydd yn amhosib i chi greu cyfri ar y diwrnod gan fod y system yn cloi wedi i bump greu cyfrif! Os cewch drafferth... dyfal donc... a thriwch eto! Os aiff hi'n ben-set yna ebostiwch y Wicipedwyr profiadol ar [email protected].
CEWCH GYRCHU POB DIM YNGLYN Â'R GWEITHDY TRWY CHWILIO AR WEFAN WICIPEDIA (efo C) AM WN (WiciNatur) MEWN UNRHYW FLWCH CHWILIO.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Wicipedia:Wicibrosiect WiciNatur, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.