Urdd fynachaidd ad-drefnedig yn deillio o Urdd Sant Bened ac yn wreiddiol o Ffrainc oedd Urdd Tiron neu y Tironiaid.
Enghraifft o'r canlynol | urdd crefyddol |
---|---|
Math | Urdd Sant Bened |
Daeth i ben | 1629 |
Dechrau/Sefydlu | 1109 |
Sylfaenydd | Bernard of Thiron |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Roedd un abaty a dau briordy yng Nghymru yn perthyn i Urdd Tiron. Roedd Martin o Tiron (bu farw cyn 1086) wedi goresgyn tiroedd yn ardal Cemais, ac wedi mynegi dymuniad sefydlu mynachlog yno. Sefydlwyd Abaty Llandudoch fel priordy yn 1113 gan ei weddw a'i fab Robert. Cytunodd Abad Tiron i Landudoch ddod yn abaty yn 1120. Sefydlwyd dau briordy hefyd, Priordy Pyll a Phriordy Ynys Bŷr, y ddau fel Llandudoch yn Sir Benfro.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Urdd Tiron, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.