Mae'r Dylluan Frech yn aelod o deulu'r Strigidae, fel y rhan fwyaf o ddylluanod.
Tylluan Frech | |
---|---|
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Chordata |
Dosbarth: | |
Urdd: | Strigiformes |
Teulu: | Strigidae |
Genws: | Strix |
Rhywogaeth: | S. aluco |
Enw deuenwol | |
Strix aluco Linnaeus, 1758 |
Mae'n aderyn cyffredin trwy'r rhan fwyaf o Ewrop a de Rwsia.
Tylluan ganolig o ran maint yw'r Dylluan Frech, 37–43 cm o hyd a 81–96 cm ar draws yr adenydd. Mae'n byw ar lygod yn bennaf, ond gall ladd anifeiliaid o faint llygod mawr ar adegau. Nid yw'n aderyn mudol ac anaml y gwelir un yn ystod y dydd, gan nad yw'n dod allan i hela nes iddi dywyllu.
Ceir y Dylluan Frech mewn coedydd ac mae'n nythu mewn tyllau mewn coed. Pan mae'n nythu'n barod i ymosod ar bobl i amddiffyn y nyth, a gall dynnu gwaed. Dyma'r ddylluan sy'n gwneud y sŵn Tyhwit tyhŵ, ond mewn gwirionedd mae hwn yn gyfuniad o ddwy alwad, Tyhwit gan yr iâr a tyhŵ gan y ceiliog.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Tylluan frech, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.