Teulu o adar hwyrol yw Troellwyr (Lladin: Caprimulgidae).
Troellwyr | |
---|---|
Cudylldroellwr, Chordeiles minor, a Whiparwhîl, Caprimulgus vociferus | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Chordata |
Dosbarth: | |
Urdd: | Caprimulgiformes |
Teulu: | Caprimulgidae |
Isdeuluoedd | |
| |
Dosbarthiad |
Mae ganddyn nhw dair nodwedd sy'n gyffredin: adenydd hir, coesau byr a phigau byr. Maent yn nythu ar wyneb y ddaear yn hytrach na mewn coed. Fel arfer, pan sonia Cymro am Droellwr, mae'n cyfeirio at y Troellwr mawr.
Y gair Lladin am berson neu anifail sy'n sugno tethi gafr yw Caprimulgus a chredai'r hen Rufeiniaid fod aelodau'r teulu hwn yn yfed llaeth geifr. A dyna sut y cawsant yr enw gwyddonol. Gelwir rhai o Droellwyr y Byd Newydd yn 'Gudylldroellwyr.
Mae'r Troellwyr i'w canfod ledled y byd. Maen nhw'n hedfan yn y cyfnos neu yn y bore bach ac yn bwyta pryfaid mawr fel gwyfynnod.
Rhestr Wicidata:
rhywogaeth | enw tacson | delwedd |
---|---|---|
Eleothreptus candicans | Eleothreptus candicans | |
Hebogdroellwr bach | Siphonorhis brewsteri | |
Hebogdroellwr cyffredin | Nyctidromus albicollis | |
Troellwr adeingrymanog | Eleothreptus anomalus | |
Troellwr cynffondelyn y de | Macropsalis forcipata | |
Troellwr cynffondelyn y gogledd | Uropsalis lyra | |
Troellwr cynffonsiswrn y gogledd | Uropsalis segmentata | |
Troellwr du | Nyctipolus nigrescens | |
Troellwr gwenolaidd | Nyctipolus hirundinaceus | |
Troellwr torchog | Gactornis enarratus | |
Whiparwhîl bach | Phalaenoptilus nuttallii |
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Troellwyr, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.