Y broses o unigolyn trawsryweddol yn newid ei dull o fyw ac yn aml ei rhyw fiolegol er mwyn byw yn y rhywedd mae'n ei arddel yw trawsnewid rhywedd.
Trawsrywedd |
---|
Hunaniaethau |
Androgynedd · Anneuaidd · Dau-Enaid · Dyn traws · Kathoey · Menyw draws · Trydydd rhywedd |
Pynciau |
Cwestiynu · Trawsrywioldeb |
Agweddau clinigol a meddygol |
Dysfforia rhywedd · Llawdriniaeth ailbennu rhyw · Therapi hormonau trawsryweddol |
Agweddau cyfreithiol a chymdeithasol |
Cydnabyddiaeth gyfreithiol · Symbolau · Trawsffobia · Deddf Cydnabod Rhywedd 2004 |
Rhestrau |
Pobl |
Categori |
Mae'r camau y bydd person trawsryweddol yn cymryd wrth drawsnewid yn amrywio o unigolyn i unigolyn. Fel arfer byddai'n cynnwys agweddau cymdeithasol, megis dweud wrth deulu a chyfeillion, gwisgo'n wahanol, a defnyddio cosmetigau neu roi'r gorau iddynt. Byddai'r mwyafrif o bobl sydd yn trawsnewid yn newid ei enw cyntaf. Gall trawsnewid gynnwys triniaethau meddygol, gan gynnwys cwnsela, seicotherapi, therapi hormonau a llawdriniaeth ailbennu rhyw, ac agweddau cyfreithiol fel newid enw a rhyw ar ddogfennau adnabod.
Ffordd arall o ddisgrifio'r broses yw ailbennu rhywedd. Yng Nghymru, Lloegr, a'r Alban, mae ailbennu rhywedd yn nodwedd sydd wedi'i diogelu gan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 ar gyfer unigolion sydd yn bwriadu dilyn proses neu ran o broses i ailbennu rhywedd trwy newid nodweddion rhywedd ffisiolegol neu nodweddion eraill, neu ei fod eisoes wedi gwneud hynny. Nid oes rhaid i'r newidiadau fod yn driniaethau meddygol.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Trawsnewid rhywedd, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.