Actores a chantores o Gymraes yw Toni Caroll (ganwyd 9 Chwefror 1949), sydd fwyaf adnabyddus am ei rhan yn nrama Con Passionate a'r cymeriad Olwen yn Pobol y Cwm.
Toni Caroll | |
---|---|
Ganwyd | 1949 Ystradgynlais |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | actor |
Ganwyd Carol Ann James yn Ystradgynlais yn unig blentyn i Arthur William James ag Evelyn Llywelyn James. Mynychodd Ysgol Maesydderwen. Yn 15 oed, atebodd hysbyseb yn yr Evening Post a'i gwahoddwyd am glyweliad yn ystafell ddawnsio'r Swansea Embassy. Dechreuodd weithio y diwrnod canlynol gan weithio 7 diwrnod yr wythnos yn y clwb yn ystod bingo a dawnsfeydd. Yno newidiodd ei enw i Toni Caroll.
Yn 1986 ymunodd a Pobol y Cwm fel y cymeriad achlysurol 'Denise', kissogram oedd yn gweithio i gwmni Meic Pierce. Dychwelodd i'r gyfres yn 1991 fel cymeriad tra gwahanol, Olwen Parry aeth ymlaen i redeg y siop. Arhosodd gyda'r gyfres hyd at 1996 gan wneud ymddangosiadau achlysurol wedi hynny.
Yn 2015 fe gyhoeddoedd ei hunangofiant Tynnu Colur (Gwasg Gomer).
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Toni Caroll, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.