Roedd Thyrza Anne Leyshon (7 Mawrth, 1892 -1996) yn Artist Cymreig oedd yn arbenigo mewn darluniau miniaturau.
Thyrza Anne Leyshon | |
---|---|
Ganwyd | 7 Mawrth 1892 Abertawe |
Bu farw | 1996 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | arlunydd |
Ganwyd Leyshon yn Abertawe yn blentyn i Thomas Howell Leyshon ac Ann ei wraig. Roedd y ddau riant yn Gymry Cymraeg ond ni wnaethant drosglwyddo'r iaith i'w merch.
Am nifer o flynyddoedd bu’n gweithio fel rheolwr gyda chwmni peiriannau gwnïo Singer cyn dod yn was sifil gyda Chyllid y Wlad. Pan ymddeolodd o'r Gwasanaeth Sifil ym 1942 cofrestrodd yn Ysgol Gelf Abertawe a derbyn gwersi peintio preifat yn Llundain, gyda'r arlunydd miniatur Ethol Court. Peintiodd Leyshon miniaturau o dirweddau Cymru a'r Alban a hefyd bortreadau mewn dyfrlliw ar ifori. O ddechrau'r 1960au bu hi'n arddangos y rhain mewn sioeau grŵp ac arddangosfeydd eraill yng Ngwlad Belg, Ffrainc a'r America yn ogystal ag yn y DU. Arddangosodd Leyshon yn y Paris Salon ym 1962, 1965 a sawl gwaith rhwng 1968 a 1974 yn ogystal ag yn y Circle Nationale Belge d'Art et Esthetique ym Mrwsel ym 1963 ac yn yr Academi Frenhinol yn Llundain yn ystod 1969. Enillodd fedal aur yn y Paris Salon ym 1973 a medal arian yno ym 1968 ac enillodd fedal arian ym 1973 ym Mrwsel hefyd. Yn ei thref enedigol bu Leyshon yn arddangoswr rheolaidd yn Oriel Gelf Glynn Vivian ac roedd hefyd yn aelod cyswllt o Gymdeithas y Miniaturau.
Cofrestrwyd ei marwolaeth ym mis Chwefror 1996 yng Ngorllewin Abertawe yn 103 mlwydd oed.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Thyrza Anne Leyshon, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.