Cyfarwyddwr a cynhyrchydd teledu o Gymro oedd Terry Dyddgen-Jones (Gorffennaf 1950 – 27 Mehefin 2018).
Terry Dyddgen-Jones | |
---|---|
Ganwyd | Terry Jones Gorffennaf 1950 Crwbin |
Bu farw | 27 Mehefin 2018 Caerdydd |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | cyfarwyddwr teledu |
Plant | Siôn Russell Jones |
Yn wreiddiol o Sir gaerfyrddin, roedd Terry'n fwyaf adnabyddus fel un o gyfarwyddwyr drama teledu rhwydwaith, ac am gynhyrchu ffilmiau ar gyfer BBC ac ITV. Bu’n gyfrifol am gyfarwyddo dros 200 o benodau o'r opera sebon Coronation Street, ac roedd hefyd yn adnabyddus yng Nghymru am gyfarwyddo cyfresi Parch a Byw Celwydd, ynghyd â’i waith fel uwch-gynhyrchydd Pobol y Cwm. Bu farw Terry Dyddgen Jones ddiwedd Mehefin yn Ysbyty Felindre, Caerdydd wedi salwch byr. Ei fab yw'r canwr a cyfansoddwr Sion Russell Jones.
Fe'i ganwyd ym mhentref Crwbin, Sir Gaerfyrddin. Aeth i Ysgol Ramadeg Cwm Gwendraeth. Ei enw bedydd oedd Terry Jones ond pan ymunodd ag Equity yn 1974 roedd rhaid iddo ddewis enw newydd er mwyn osgoi dryswch gyda'r digrifwr Terry Jones o Monty Python. Dewisodd yr enw Dyddgen am fod ei hen-ddad-cu wedi ei ddefnyddio fel enw barddol. Mae yna hefyd Gapel Dyddgen ger Crwbin.
Cychwynnodd ei yrfa fel athro drama yn Ysgol Glan Clwyd a bu'n gweithio gyda Clwyd Theatr Cymru yn y cyfnod hwn.
Yn y 1970au roedd yn gyflwynydd a chynhyrchydd rhaglenni Cymraeg gyda HTV Cymru. Bu hefyd yn actor, cynhyrchydd a chyfarwyddwr ar Pobol y Cwm. Bu'n cyfarwyddo penodau o'r gyfres ddrama Pam Fi Duw? yn y 1990au. Gweithiodd fel cyfarwyddwr ar rai o operâu sebon mwyaf y BBC ac ITV, yn bennaf ar dros 200 benodau ar Coronation Street rhwng 1997 a 2014. Gweithiodd am gyfnodau ar Hollyoaks, Eastenders ac Emmerdale hefyd.
Yn fwy diweddar, bu'n cyfarwyddo ar y cyfresi drama Cymraeg Byw Celwydd a Parch.
Roedd yn briod a Judith ac roedd ganddynt dri plentyn, Leah, Jack, Sion.
Enillodd sawl wobr BAFTA am ei waith ar operâu sebon a dramau.
Anrhydeddwyr ef, wedi'i farwolaeth, gyda gwisg werdd yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Caerdydd 2018.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Terry Dyddgen-Jones, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.