Cymuned ym Mhowys, Cymru, yw Tawe Uchaf.
Lleolir y gymuned yn ardal Brycheiniog i'r gogledd-ddwyrain o Ystradgynlais ac ar hyd rhan uchaf dyffryn Afon Tawe. Mae'n cynnwys pentrefi Coelbren, Cae Hopkin, Ynyswen a Phen-y-cae. Roedd poblogaeth y gymuned yn 2001 yn 1,516.
Math | cymuned |
---|---|
Poblogaeth | 1,562 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Powys |
Gwlad | Cymru |
Arwynebedd | 2,964.74 ha |
Cyfesurynnau | 51.80739°N 3.66865°W |
Cod SYG | W04000345 |
Gwleidyddiaeth | |
AC/au | James Evans (Ceidwadwyr) |
AS/au | Fay Jones (Ceidwadwyr) |
Ceir nifer fawr o ogofâu yn y gymuned; yr enwocaf ohonynt yw Ogofâu Dan-yr-Ogof, un o'r systemau ogofâu mwyaf yng ngorllewin Ewrop ac atyniad poblogaidd i ymwelwyr. Mae'r Cerrig Duon yn gasgliad pwysig o henebion o Oes yr Efydd. Yn y gymuned yma hefyd y mae plasdy enwog Craig-y-nos, a adeiladwyd yn 1841 ac a brynwyd gan y gantores Adelina Patti yn 1878. Mae cloddio glo brig yn bwysig yn yr ardal.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan James Evans (Ceidwadwyr) ac yn Senedd y DU gan Fay Jones (Ceidwadwyr).
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Tawe Uchaf, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.