Mae sigarét electronig, a elwir hefyd gan sawl enw arall fel e-sigarét, yn ddyfais electronig sy'n efelychu ysmygu tybaco.
Gelwir hefyd ar lafar ac yn gynyddol yn y cyfryngai yn fêp o'r Saesneg. Mae sigaréts electronig yn cynnwys nicotin.
Yn Saesneg, mae "vaping" yn golygu "defnyddio sigarét electronig".
Yn Saesneg, mae enwau cyffredin ar gyfer sigaréts electronig yn cynnwys "vapes", "e-cigarettes", "vape pens" a sawl un arall.
Yn Gymraeg, mabwysiadwyd y term "e-sigarét" fel enw amgen ar sigarét electronig.
Yng Nghymru, mae defnyddio sigaréts electronig yn gyhoeddus yn anghyfreithlon.
Ym mis Ionawr 2024 cyhoeddodd Llywodraeth Cymru eu bod am wahardd e-sigarennau untro. Bydd Llywodraeth Cymru, ynghyd â Llywodraeth y DU a Llywodraeth yr Alban, bellach yn cyflwyno deddfwriaeth i fynd i’r afael â fêps untro – a hynny oherwydd rhesymau amgylcheddol ac iechyd. Nododd siaradwyr mewn cyfweliad stryd ar Newyddion S4C eu bod yn teimlo bod fêps untro wedi eu marchnata ar gyfer plant gan ddefnyddio lliwau llachar, golau sy'n fflachio. Nododd y Llywodraeth hefyd bod gwastraff plastig a niwed i'r amgylchedd yn ffactor wrth eu banio.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Sigarét electronig, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.