Cynhaliwyd cystadalethau Seiclo yng Ngemau Olympaidd yr Haf 2012 rhwng 28 Gorffennaf a 12 Awst dros bump lleoliad, gan gynnwys London Velopark (trac a BMX), a Hadleigh Farm, Essex (beicio mynydd).
Seiclo yng Ngemau Olympaidd yr Haf 2012 | ||||
---|---|---|---|---|
Beicio Mynydd | ||||
Traws-gwlad | dynion | merched | ||
BMX | ||||
BMX | dynion | merched | ||
Seiclo Ffordd | ||||
Ras ffordd | dynion | merched | ||
Treial amser | dynion | merched | ||
Seiclo Trac | ||||
Pursuit tîm | dynion | merched | ||
Sbrint | dynion | merched | ||
Sbrint tîm | dynion | merched | ||
Ras bwyntiau | dynion | merched | ||
Keirin | dynion | merched | ||
Omnium | dynion | merched |
Cynhaliwyd y ras ffordd dros gwrs a ddechreuodd a gorffennodd ar y Mall, gan deithio allan o Lundain i Surrey; cynhaliwyd y treial amser yn Hampton Court Palace.
Roedd 18 cystadleuaeth gyda 500 o chwaraewyr yn cymryd rhan.
Bu nifer o newidiadau i'r rhaglen seiclo trac i gymharu a'r seiclo yng Ngemau Olympaidd yr Haf 2008. Cafwyd wared ar y pursuit unigol a'r ras bwyntiau, a'r Madison. Ychwanegwyd sbrint tîm, pursuit tîm a keirin i raglen y merched, tra bod yr Omnium yn cael ei gynnal ar gyfer dynion a merched.
Roedd y ras ffordd ar gyfer y Gemau Olympaidd a Paralympaidd am gael eu cynnal yn Regent's Park a Hampstead Heath yn wreiddiol. Yn hytrach, cychwynnodd y rasys ffordd Olympaidd ar y Mall, gan deithio allan o Lundain i'r de-orllewin gan wneud sawl cylchffordd a gynhwysodd Box Hill, Surrey, cyn dychwelyd i orffen ar y Mall. Cynhaliwyd rasys ffordd y Gemau Paralympaidd yn Brands Hatch. Cynhaliwyd y beicio mynydd Olympaidd yn Hadleigh Farm, wedi i'r UCI ddisgrifio'r cwrs gwreiddiol ym Mharc Gwledig Weald fel un "rhy hawdd" ym mis Gorffennaf 2008. Bu cynigion y gallai creu cwrs yng Nghymru ar gyfer y beicio mynydd gan fod digonedd o dirwedd a llwybrau o'r safon uchaf iw cael eisoes, ond nid oedd hyn o bles y PORh oherwydd y byddai dros 3 awr o Lundain. Cysidrwyd lleoliad yng Nghaint yn ogystal.
Safle | Gwlad | Aur | Arian | Efydd | Cyfanswm |
---|---|---|---|---|---|
1 | Prydain Fawr | 8 | 2 | 2 | 12 |
2 | Yr Almaen | 1 | 4 | 1 | 6 |
3 | Ffrainc | 1 | 3 | 0 | 4 |
4 | Awstralia | 1 | 2 | 3 | 6 |
5 | Yr Unol Daleithiau | 1 | 2 | 1 | 4 |
6 | Colombia | 1 | 1 | 1 | 3 |
7 | Yr Iseldiroedd | 1 | 0 | 2 | 3 |
8 | Casacstan | 1 | 0 | 0 | 1 |
Denmarc | 1 | 0 | 0 | 1 | |
Latfia | 1 | 0 | 0 | 1 | |
Gweriniaeth Tsiec | 1 | 0 | 0 | 1 | |
12 | Tsieina | 0 | 2 | 1 | 3 |
13 | Seland Newydd | 0 | 1 | 2 | 3 |
14 | Y Swistir | 0 | 1 | 0 | 1 |
15 | Rwsia | 0 | 0 | 2 | 2 |
16 | Canada | 0 | 0 | 1 | 1 |
Hong Cong | 0 | 0 | 1 | 1 | |
Norwy | 0 | 0 | 1 | 1 | |
Yr Eidal | 0 | 0 | 1 | 1 | |
Cyfanswm | 18 | 18 | 19 | 55 |
Chwaraeon | Aur | Arian | Efydd |
Traws gwlad dynion Manylion | Jaroslav Kulhavý Gweriniaeth Tsiec (CZE) | Nino Schurter Y Swistir (SUI) | Marco Aurelio Fontana Yr Eidal (ITA) |
Traws gwlad merched Manylion | Julie Bresset Ffrainc (FRA) | Sabine Spitz Yr Almaen (GER) | Georgia Gould Yr Unol Daleithiau (USA) |
Chwaraeon | Aur | Arian | Efydd |
Dynion Manylion | Māris Štrombergs Latfia (LAT) | Sam Willoughby Awstralia (AUS) | Carlos Oquendo Colombia (COL) |
Merched Manylion | Mariana Pajón Colombia (COL) | Sarah Walker Seland Newydd (NZL) | Laura Smulders Yr Iseldiroedd (NED) |
Chwaraeon | Aur | Arian | Efydd |
Ras ffordd dynion Manylion | Alexander Vinokourov Casacstan (KAZ) | Rigoberto Urán Colombia (COL) | Alexander Kristoff Norwy (NOR) |
Ras ffordd merched Manylion | Marianne Vos Yr Iseldiroedd (NED) | Lizzie Armitstead Prydain Fawr (GBR) | Olga Zabelinskaya Rwsia (RUS) |
Treial amser dynion Manylion | Bradley Wiggins Prydain Fawr (GBR) | Tony Martin Yr Almaen (GER) | Chris Froome Prydain Fawr (GBR) |
Treial amser merched Manylion | Kristin Armstrong Yr Unol Daleithiau (USA) | Judith Arndt Yr Almaen (GER) | Olga Zabelinskaya Rwsia (RUS) |
Chwaraeon | Aur | Arian | Efydd |
Pursuit tîm dynion Manylion | Prydain Fawr (GBR) Ed Clancy Geraint Thomas Steven Burke Peter Kennaugh | Awstralia (AUS) Jack Bobridge Glenn O'Shea Rohan Dennis Michael Hepburn | Seland Newydd (NZL) Sam Bewley Aaron Gate Marc Ryan Jesse Sergent |
Pursuit tîm merched Manylion | Prydain Fawr (GBR) Danielle King Laura Trott Joanna Rowsell | Yr Unol Daleithiau (USA) Sarah Hammer Dotsie Bausch Jennie Reed | Canada (CAN) Tara Whitten Gillian Carleton Jasmin Glaesser |
Sbrint unigol dynion Manylion | Jason Kenny Prydain Fawr (GBR) | Grégory Baugé Ffrainc (FRA) | Shane Perkins Awstralia (AUS) |
Sbrint unigol merched Manylion | Anna Meares Awstralia (AUS) | Victoria Pendleton Prydain Fawr (GBR) | Guo Shuang Tsieina (CHN) |
Sbrint tîm dynion Manylion | Prydain Fawr (GBR) Philip Hindes Chris Hoy Jason Kenny | Ffrainc (FRA) Grégory Bauge Michaël D'Almeida Kévin Sireau | Yr Almaen (GER) René Enders Maximilian Levy Robert Förstemann |
Sbrint tîm merched Manylion | Yr Almaen (GER) Kristina Vogel Miriam Welte | Tsieina (CHN) Gong Jinjie Guo Shuang | Awstralia (AUS) Kaarle McCulloch Anna Meares |
Keirin dynion Manylion | Chris Hoy Prydain Fawr (GBR) | Maximilian Levy Yr Almaen (GER) | Teun Mulder Yr Iseldiroedd (NED) |
Simon van Velthooven Seland Newydd (NZL) | |||
Keirin merched Manylion | Victoria Pendleton Prydain Fawr (GBR) | Guo Shuang Tsieina (CHN) | Lee Wai Sze Hong Cong (HKG) |
Omnium dynion Manylion | Lasse Norman Hansen Denmarc (DEN) | Bryan Coquard Ffrainc (FRA) | Ed Clancy Prydain Fawr (GBR) |
Omnium merched Manylion | Laura Trott Prydain Fawr (GBR) | Sarah Hammer Yr Unol Daleithiau (USA) | Annette Edmondson Awstralia (AUS) |
* Cymerodd ran yn y rownd gyntaf yn unig.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Seiclo yng Ngemau Olympaidd yr Haf 2012, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.